A30210:651
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
O'm rhan i, myfi a fum in yr ymladdsa hon cŷn hŷn, ac er diangc o honof in fŷw (trwŷ ddaioni a gallu yr Holl Alluog) etto, nid oes achos gennif i ymffrostio am fyngwroldeb; Fe fŷdd dâ gennif oni chysarfyddaf in ôl hŷn a'r fâth ymdriniaeth; Er fy môd in tybied nad aethom ni etto tuhwnt i bôb peryglon; Pa fôdd bynnag, gan na ddarfu ir Llew na'r Arth mo'n disa hŷd in hŷn, yr wŷf in gobeithio hefŷd a gwared Duw ni oddiwrth y Philistiaid dienwaededig nessaf; Ina a canodd Cristion fell hŷn.
O'm rhan i, myfi a fum yn yr ymladdsa hon cŷn hŷn, ac er diangc o honof yn fŷw (trwŷ ddaioni a gallu yr Holl Alluog) etto, nid oes achos gennif i ymffrostio am fyngwroldeb; Fe fŷdd dâ gennif oni chysarfyddaf yn ôl hŷn a'r fâth ymdriniaeth; Er fy môd yn tybied nad aethom ni etto tuhwnt i bôb peryglon; Pa fôdd bynnag, gan na ddarfu ir Llew na'r Arth mo'n disa hŷd yn hŷn, yr wŷf yn gobeithio hefŷd a gwared Duw ni oddiwrth y Philistiaid dienwaededig nessaf; Yna a canodd Cristion fel hŷn.
Ychydig ffŷdd, pale buost di? Ai ynghwmpeini lladron? Ai fellu 'gwnaeth yr enwir blâ, Ai'th bocced a 'speiliason? Cais gan hynnŷ ychwaneg ffŷdd, Os mini dorfeudd orfod; Fell hŷn dross ddengmîl yr âl di, Onide mae try in ormod.
Ychydig ffŷdd, pa le buost di? Ai ynghwmpeini lladron? Ai fellu 'gwnaeth yr enwir blâ, Ai'th bocced a 'speiliason? Cais gan hynnŷ ychwaneg ffŷdd, Os mynni dorfeudd orfod; Fel hŷn dros ddengmîl yr âl di, Onide mae tri yn ormod.
Fellu hwŷ a aethant ymlaen, ac Anwŷbodaeth a'i canlynodd hŷdoni ddaethant lle yr oedd ford arall in dyfod iw ford hwŷnt, yr hon a ymddangosai mor uniawn ar ford oedd ganthŷnt hwŷ i fined rhŷd-ddi: Ac ni wŷddent hwŷ ymma pan or hdwŷ a gymmerent: Canŷs yr oedd pôb un in union o'u blaen hwŷnt; Ac am hynnŷ hwŷ a safasant ymma dro i ystyried; Ac fell yr oeddŷnt