A30210:687
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gobeithiol. Ai meddwl yr ydŷch pa fôdd a daethŷm ar y cyntaf i ymofŷn am jechŷdwriaeth fy Enaid?
Gobeithiol. Ai meddwl yr ydŷch pa fôdd a daethŷm ar y cyntaf i ymofŷn am iechŷdwriaeth fy Enaid?
CRISTION. Je, hynnŷ ŷw fy meddwl i.
CRISTION. Ie, hynnŷ ŷw fy meddwl i.
Gobeithiol. Myfi a fum ennŷd o amser in cymmerŷd hyfrydwch in y pethau a welid, ac a werthid in ein fair ni; Pethau 'rwŷf in credu yrawron (pa baswn in eu canlŷn in wastadol) a fasent in fy nwŷn i golledigaeth a distrŷw.
Gobeithiol. Myfi a fum ennŷd o amser yn cymmerŷd hyfrydwch yn y pethau a welid, ac a werthid yn ein ffair ni; Pethau 'rwŷf yn credu yrawron (pa baswn yn eu canlŷn yn wastadol) a fasent yn fy nwŷn i golledigaeth a distrŷw.
CRISTION. Pa bethau oeddent hwŷ?