A30210:767
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
CRISTION. Gwîr ydŷw, mae calon ddâ ydŷw'r gallon honno, ymha un a mae meddyliau dâ in aros; A buchedd ddâ ydŷw'r fuchedd honno, sŷdd in gyfattebol i orchymynion Duw; And un peth ŷw bôd y rhain mewn gwirionedd ynom, a pheth arall ŷw tybied eu bôd nhw gennŷm.
CRISTION. Gwîr ydŷw, mae calon ddâ ydŷw'r galon honno, ymha un a mae meddyliau dâ yn aros; A buchedd ddâ ydŷw'r fuchedd honno, sŷdd yn gyfattebol i orchymynion Duw; Ond un peth ŷw bôd y rhain mewn gwirionedd ynom, a pheth arall ŷw tybied eu bôd nhw gennŷm.
Anwŷbodaeth. Ertolwg pa feddyliau yr ŷdŷch chwi in eu cyfrif in feddyliau dâ? A pha fuchedd yr ydŷchi in cyfrif ei fôd in gyfattebol i orchymynion Duw?
Anwŷbodaeth. Ertolwg pa feddyliau yr ŷdŷch chwi yn eu cyfrif yn feddyliau dâ? A pha fuchedd yr ydŷchi yn cyfrif ei fôd yn gyfattebol i orchymynion Duw?
CRISTION. I mae amrŷw sâth o feddyllau dâ, rhai in perthŷn i ni ein hunain, rhai i Dduw, a rhai i Grîst, a rhai i bethau eraill.
CRISTION. I mae amrŷw sâth o feddyllau dâ, rhai yn perthŷn i ni ein hunain, rhai i Dduw, a rhai i Grîst, a rhai i bethau eraill.