A30210:834
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth…Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth…
Taith y pererin, neu, siwrneu din o'r bid hwn i'r bid addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd in yr hwn a dangosir, in gyntaf, y mod o'i gychwŷnfa ef, in ail ei siwrneu ddyrŷs, in drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, in saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd in sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen in gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.Taith y pererin, neu, siwrneu dyn o'r byd hwn i'r byd addaw dan gyffelybiaeth breuddwyd yn yr hwn a dangosir, yn gyntaf, y modd o'i gychwŷnfa ef, yn ail ei siwrneu ddyrŷs, yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlad ddymunol, teŷrnas nêf / o wneuthuriad John Bunyan, yn saesnaeg ; y llyfr hwn a argraphwŷd yn sasnaeg bymtheg o weithiau, ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷfg ddwŷlo.
Argraphwŷd in y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699Argraphwŷd yn y Mwŷthig : Gan Thomas Jones, MDCLXXXXIX 1699
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Yr Ail Rheswm ŷw hŷn, mae ofn slafaidd in arglwŷddiaethu arnŷnt; Yr wŷf in dywedŷd yrawron am eu gwaith in ofni dynnion; Canŷs ofn ⟨p. 193⟩dŷn sŷdd in dwŷn magl (Diharebion 29.25.) Ac am hynnŷ er eu bod in ymddangos in fywiog, ac in wresog am y Nefoedd, prŷd a byddo Tân Uffern o amgŷlch eu clustiau (self o herwŷdd eu bod in lawn o ddychrŷniadau oblegid eu pechodau) etto pan êl yr arswŷd hwnnw ychydig heibio, hwŷ a fyddant o feddwl arall, self may dâ ŷw bod in doeth, ac nid rhedeg (am na wŷddant pa beth) i berŷgl o golli'r cwbl a'r a feddant er mwŷn crefŷdd; Neu or lleiaf iw bwrw eu hunain i ofudiau anocheladwŷ ac afreidiol; Ac fellu maent in syrthio i ymgyfeillachu ar Bŷd drachesn.
Yr Ail Rheswm ŷw hŷn, mae ofn slafaidd yn arglwŷddiaethu arnŷnt; Yr wŷf yn dywedŷd yrawron am eu gwaith yn ofni dynnion; Canŷs ofn ⟨p. 193⟩dŷn sŷdd yn dwŷn magl (Diharebion 29.25.) Ac am hynnŷ er eu bod yn ymddangos yn fywiog, ac yn wresog am y Nefoedd, prŷd a byddo Tân Uffern o amgŷlch eu clustiau (sef o herwŷdd eu bod yn llawn o ddychrŷniadau oblegid eu pechodau) etto pan êl yr arswŷd hwnnw ychydig heibio, hwŷ a fyddant o feddwl arall, sef mai dâ ŷw bod yn ddoeth, ac nid rhedeg (am na wŷddant pa beth) i berŷgl o golli'r cwbl a'r a feddant er mwŷn crefŷdd; Neu or lleiaf iw bwrw eu hunain i ofudiau anocheladwŷ ac afreidiol; Ac fellu maent yn syrthio i ymgyfeillachu ar Bŷd drachesn.
In Drydŷdd, I mae'r cywilŷdd sŷdd ynglŷn wrth grefŷdd, in gorwedd megis maen tramgwŷdd in eu ford hwŷnt: I maent hwŷ in uchel ac in feilchion; Ac mae crefŷdd in beth gwael a dirmygus in eu golwg hwŷnt; Ac am hynnŷ pan anghofiant boenau Uffern, a'r llid a fŷdd; Hwŷ a ddychwelant at eu drŵg fucheddau drachefn.
Yn Drydŷdd, I mae'r cywilŷdd sŷdd ynglŷn wrth grefŷdd, yn gorwedd megis maen tramgwŷdd yn eu ffordd hwŷnt: I maent hwŷ yn uchel ac yn feilchion; Ac mae crefŷdd yn beth gwael a dirmygus yn eu golwg hwŷnt; Ac am hynnŷ pan anghofiant boenau Uffern, a'r llid a fŷdd; Hwŷ a ddychwelant at eu drŵg fucheddau drachefn.