A36225:19
Ymadroddion hen Mr. Dod
Printiedig in Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693Printiedig yn Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
No title page in the transcription: set from the catalogue record.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
16. Os rhoddir anfri i ni, neu ein difenwi, neu os gwneir a ni gam gan gyfaill neu elyn, fe ddylei fod in flinach gennym ni o ran y pechod a wneir in erbyn Duw, nag o ran y sarhaad neu 'r ammarch a wneir i ni ein hunain.
16. Os rhoddir anfri i ni, neu ein difenwi, neu os gwneir a ni gam gan gyfaill neu elyn, fe ddylei fod yn flinach gennym ni o ran y pechod a wneir yn erbyn Duw, nag o ran y sarhaad neu 'r ammarch a wneir i ni ein hunain.
17. Mae gwr Duwiol in debyg i Ddafad; pob man sydd well o'i blegid lle y delo. Gwr annuwiol sydd debyg i Afr; pob man sydd in waeth o'i blegid; gado y mae ef sawyr drewllyd ar ei ôl.
17. Mae gwr Duwiol yn debyg i Ddafad; pob man sydd well o'i blegid lle y delo. Gwr annuwiol sydd debyg i Afr; pob man sydd yn waeth o'i blegid; gado y mae ef sawyr drewllyd ar ei ôl.
18. Cystuddiau wedi eu sancteiddio ydynt oruchafiaethau, neu dderchafiadau ysprydol; ac y maent in lawyer gwell i Gristion, nâ 'r holl Arian a'r Aur in y bŷd; gan fod profiad ein ffyd in werthfawroccach nâ 'r Aur, 1 Pe. 1.7.
18. Cystuddiau wedi eu sancteiddio ydynt oruchafiaethau, neu dderchafiadau ysprydol; ac y maent yn llawer gwell i Gristion, nâ 'r holl Arian a'r Aur yn y bŷd; gan fod profiad ein ffyd yn werthfawroccach nâ 'r Aur, 1 Pe. 1.7.