A36225:31
Ymadroddion hen Mr. Dod
Printiedig in Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693Printiedig yn Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
No title page in the transcription: set from the catalogue record.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
28. Y rheswm pa ham na weithir ar lawyer fydd tan nerthol foddion Grâs, lle y mae llaweroedd ar sy in byw o bell ac in dywad in anfynch tan Bregethiad nerthol, in cael gweithio arnynt drwy hynny, efe a arferei oi roddi drwy'r gyffelybiaeth yma: Megis mewn Tref farchnad, nid oes cymmaint matter gan bobl y Dref am bethau sy in y farchnad, a chan y rhai sydd in byw in y wlâd; maent hwy in dyfod i brynu, a rhaid yw iddynt wneuthur felly, a hwy fynnant gael y peth sydd arnynt ei eisiau, beth bynnag a dalont am dano; lle mae y rhai sy in byw in y Dref, in tybied y gallant brynu, pa amser bynnag y gwelont in dda, ac felly yr esceulusant brynu in yr amser presennol; ac o'r diwedd, maent in fynych jawn in cael eu siommi a'u twyllo.
28. Y rheswm pa ham na weithir ar lawer fydd tan nerthol foddion Grâs, lle y mae llaweroedd ar sy yn byw o bell ac yn dywad yn anfynch tan Bregethiad nerthol, yn cael gweithio arnynt drwy hynny, efe a arferei oi roddi drwy'r gyffelybiaeth yma: Megis mewn Tref farchnad, nid oes cymmaint matter gan bobl y Dref am bethau sy yn y farchnad, a chan y rhai sydd yn byw yn y wlâd; maent hwy yn dyfod i brynu, a rhaid yw iddynt wneuthur felly, a hwy fynnant gael y peth sydd arnynt ei eisiau, beth bynnag a dalont am dano; lle mae y rhai sy yn byw yn y Dref, yn tybied y gallant brynu, pa amser bynnag y gwelont yn dda, ac felly yr esceulusant brynu yn yr amser presennol; ac o'r diwedd, maent yn fynych iawn yn cael eu siommi a'u twyllo.
29. I'n perswadio ni i beidio a rhoi sen am sen, efe a ddywedai; Os Ci a gyfarth ddafad, ni chyfarth y ddafad mo'r Ci.
30. Pedwar O Resymmau a roddai fo in erbyn Gofalon anghymhedrol am bethau daiarol, fell na ddianrhydeddem Duw, na'i wadu. 1. Maent in afreidiol. 2. Maent in anifeilaidd. 3. Maent in anfuddiol. 4. Maent in arfer o ddilyn y Cenhedloedd. 1. In afreidiol: Pam y rhaid i ni ofalu, a Duw hefyd; Gŵyr ein Tad nefol fod arnom esieu y pethau hyn, a pheri y mae ef i ni, na ofalom am ddim, and bwrw ein gafol arno ef, yr hwn sy in gofalu drosom ni.