A41353:224
Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf
Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf: neu Llyfr saefoneg a elwir, = The marrow of modern divinity Oblegid y cyfammod oweithredoedd, a'r cyfammond o râs, a'u hymarfer hwy ill dau, a'r diweddion, dan yr hên Destament, a'r Testament Newydd. Ym mha un, y dangofir in eglur, pa cyn bellhed y mae din in fefyll ar y gefraith o rhan ei cyfiawnhaad, ac ar hynny in haeddu ei alw in ddeddfwr. A pha cyn bellhed y mae aràll in bychanu'r gy fraith o rhan sacnteiddiad, ac ar hynny in haeddu ei alw in ddeddf-wrthwynebwr. A'r llwybr canolig rhwng y ddau, yr hon â arwain y fywyd tragwyddol trwy Jesus Christ. Mewn cyd-ymddiddaniad rhwng. Evangelista. Gwenidog yr efengyl. Nomista. Deddfwr, neu wr in dal o ochor y cyfraith. Antinomista. Deddf-wrthwynebwr, neu wr in llwyr bychanu'r gyfraith. Neophitus. Christian jefange. O waith E.F. in y saefneg. O cyfiethiad J.E. i'r Gymraeg.Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf: neu Llyfr saefoneg a elwir, = The marrow of modern divinity Oblegid y cyfammod oweithredoedd, a'r cyfammond o râs, a'u hymarfer hwy ill dau, a'r diweddion, dan yr hên Destament, a'r Testament Newydd. Ym mha un, y dangofir yn eglur, pa cyn bellhed y mae dyn yn fefyll ar y gefraith o rhan ei cyfiawnhaad, ac ar hynny yn haeddu ei alw yn ddeddfwr. A pha cyn bellhed y mae aràll yn bychanu'r gy fraith o rhan sacnteiddiad, ac ar hynny yn haeddu ei alw yn ddeddf-wrthwynebwr. A'r llwybr canolig rhwng y ddau, yr hon â arwain y fywyd tragwyddol trwy Jesu Christ. Mewn cyd-ymddiddaniad rhwng. Evangelista. Gwenidog yr efengyl. Nomista. Deddfwr, neu wr yn dal o ochor y cyfraith. Antinomista. Deddf-wrthwynebwr, neu wr yn llwyr bychanu'r gyfraith. Neophitus. Christion iefange. O waith E.F. yn y saefneg. O cyfiethiad J.E. i'r Gymraeg.
Printiedig in Llundain : gan T. Mabb a A. Coles, dross William Ballard, ag i cael ar werth in i siop ef dan lûn y Bibl' in heil'r ûd in Ninas Bristol, 1651Printiedig yn Llundain : gan T. Mabb a A. Coles, dros William Ballard, ag i cael ar werth yn i siop ef dan lûn y Bibl' yn heil'r ûd yn Ninas Bristol, 1651
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Evan. Mi a wn in hyspys may felly y darllenir y geiriau in y cyfieithiad diweddaf,1 and y mae'r gwr duwiol dyscedig hwnnw Mr Tyndale, in eu darllein hwy fall hyn: Oni wyddoch chwi frodyr, fody gyfrith in arglwyddiaethu ar din tra fyddo hi in para.2 Ac y mae 'r Escos Hall in esponio 'r geiriau hynny fall hyn: Oni wyddoch chwi frodyr fod cyfraith Moses in arglwyddiaethu ar ⟨p. 103⟩din a fo in ddarostyngedig iddi cyhyd ac y bo 'r cyfraith honno mewn gwrym: In yr un mod y cytuna Origen ac Ambros, ac Erasmus, may wrth y geiriau hyn, self cyhyd ac y biddo Efe, neu Hi in para ac in byw, y dylem ni yslyried, Cid ac y parhao 'r cyfraith. Ac y mae Peter Martyr in tebyg y gelid gosod y geiriau hyn, Tra fyddo efe, neu Hi in para, neu in byw, at yr un a fynnom o'r ddau, 'ai 'r cyfraith 'ai 'r din, canys efe y ddywedir (ebe efe) fod y din wedi marw in y pedwaredd wers, ar cyfraith a ddywedir ei marw in y chewched wers. In yr un mod o herwydd fod y gair Efe, ac Hi, a coffair in y wers cyntaf in arwyddo 'r ddau ryw in y Groeg, y mae Chrysostom in tebyg, y dylid ystyried marwolaeth y ddau, self y din, 'ar cyfraith. Ac y mae Theophilact, Erasinus, Bucer a Calvin, in cyttûn in deal, marwolaeth y cyfraith in y chweched wers. Ac fell y cwplhawyd marwolaeth credadyn i'r cyfraith trwy farwolaeth Christ, felly y bu'r cyfraith farw iddo yntef. Megis ac y mae Mr Fox in ei pregeth oblegid Christ a croeshoeliwd, in tystiolaethu, gan ddywedyd: Dymma ddwy crwysen ar yr un cross, dau 'or pennaduriaid gwychaf a fu mewn bid ⟨p. 104⟩erioed, self Mab Duw, a Chyfraith Duw, ach dau in ymdrech a'i gilydd oblegid jechydwriaeth din 'ach dau in cael eu taflu i'r llawr, 'ach dau wedi eu lad ar yr un cross, eithr nid in yr un cyffelib: In cyntaf, Mab y din a fwriwd 'ir llawr, ac efe a cymmerth y cwymp, eithr nid o achos un gwendid ynddo ei hun, canys yr oedd ef in fodlon iw cwympo, er mewn adferu buddigoliaeth i ninny, ac ar y cwymp hyn y daliwd y cyfraith in ei rhwyd ei hunan ar fwrw Christ 'ir llawr, a hi a hoeliwd in ddiogel law a throedar y cross, in ol geiriau S Paul, at y Coll ossiaid: Ac ir un ystyr y dywaid Luther: Ymdrech rhyfeddol oedd hon, (ebe efe) ym mha un y mae 'r cyfraith,3