A41353:256
Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf
Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf: neu Llyfr saefoneg a elwir, = The marrow of modern divinity Oblegid y cyfammod oweithredoedd, a'r cyfammond o râs, a'u hymarfer hwy ill dau, a'r diweddion, dan yr hên Destament, a'r Testament Newydd. Ym mha un, y dangofir in eglur, pa cyn bellhed y mae din in fefyll ar y gefraith o rhan ei cyfiawnhaad, ac ar hynny in haeddu ei alw in ddeddfwr. A pha cyn bellhed y mae aràll in bychanu'r gy fraith o rhan sacnteiddiad, ac ar hynny in haeddu ei alw in ddeddf-wrthwynebwr. A'r llwybr canolig rhwng y ddau, yr hon â arwain y fywyd tragwyddol trwy Jesus Christ. Mewn cyd-ymddiddaniad rhwng. Evangelista. Gwenidog yr efengyl. Nomista. Deddfwr, neu wr in dal o ochor y cyfraith. Antinomista. Deddf-wrthwynebwr, neu wr in llwyr bychanu'r gyfraith. Neophitus. Christian jefange. O waith E.F. in y saefneg. O cyfiethiad J.E. i'r Gymraeg.Madruddyn y difinyddiaeth diweddaraf: neu Llyfr saefoneg a elwir, = The marrow of modern divinity Oblegid y cyfammod oweithredoedd, a'r cyfammond o râs, a'u hymarfer hwy ill dau, a'r diweddion, dan yr hên Destament, a'r Testament Newydd. Ym mha un, y dangofir yn eglur, pa cyn bellhed y mae dyn yn fefyll ar y gefraith o rhan ei cyfiawnhaad, ac ar hynny yn haeddu ei alw yn ddeddfwr. A pha cyn bellhed y mae aràll yn bychanu'r gy fraith o rhan sacnteiddiad, ac ar hynny yn haeddu ei alw yn ddeddf-wrthwynebwr. A'r llwybr canolig rhwng y ddau, yr hon â arwain y fywyd tragwyddol trwy Jesu Christ. Mewn cyd-ymddiddaniad rhwng. Evangelista. Gwenidog yr efengyl. Nomista. Deddfwr, neu wr yn dal o ochor y cyfraith. Antinomista. Deddf-wrthwynebwr, neu wr yn llwyr bychanu'r gyfraith. Neophitus. Christion iefange. O waith E.F. yn y saefneg. O cyfiethiad J.E. i'r Gymraeg.
Printiedig in Llundain : gan T. Mabb a A. Coles, dross William Ballard, ag i cael ar werth in i siop ef dan lûn y Bibl' in heil'r ûd in Ninas Bristol, 1651Printiedig yn Llundain : gan T. Mabb a A. Coles, dros William Ballard, ag i cael ar werth yn i siop ef dan lûn y Bibl' yn heil'r ûd yn Ninas Bristol, 1651
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Evan. Ydyw, in wir, in bossibl, in fy nhybi, canys onid yw ein Jachawdwr in dywedyd, derbyn o'r gwrandawyr rheini, â cyffelybasei ef i'r tir carregog, yr hâd in ddioed gyd a llawenydd,1 ac etto heb fod ganthint wreiddiau ynddint eu hunain, ac am hynny nad oddent hwy in wir ffyddloniaid. Ac onid yw 'r Apostol in hyspyssu i ni ⟨p. 132⟩may,2 fell y mae rhith duwioldeb, heb wrym dduwioldeb: felly, y mae rhith ffydd, heb gwrym ffydd, ac am hynny y gweddiyf ef, ar i Dduw canniat tau i'r Thssaloniaid gwaith ffydd gyd a nerth: Ac megis y mae 'r un Apostol in hyspyssu i ni fod ffydd yr hon nad yw in ffugiol,3 neu mewn rhith in unig, felly in ddiammeu y mae ffydd ffugiol rhagrhithiol. Ac in siccr pan y dywedei ein Jachawdwr fod teyrnas Duw, fell pe bwriai din hâd i'r ddaiar,4 a chyscu a chodi, nos a did, ac i'r had egino a thyfu, y mod nis gwyr efe, in gyntaf yr eginyn, in ol hynny y dywysen, yna 'r yd in lawn in ydwysen, efe a yspysei i ni, fod gwir ffydd in dyfod pob in ronin trwy ddirgel allu Duw,5 fall na wiry gwir credadyn ffyddlon ei hunan weithian, na'r amser, pa bryd na'r mod wrth pan, y gweithredwyd, hid oni welwn ni, nad ydyw gwir ffydd in arferol, in dechreu, ac in cynyddu hid at perffeithrwydd mewn munud, megis y bu eic'h ffydd chwi, fall y gweddei, eithr hi a tiff bob in ronin in ol geiriau 'r Apostol: Cyfiawnder Duw a ddatcuddir o ffydd i ffydd:6 hynny yw, o un grad ffydd at arall o ffydd gwann i ffydd cadarn, o ffydd sy in dechrevi ⟨p. 133⟩ffydd sy in tyfu at perffeithrwydd, neu o ffydd o ymgyssylltiad, i ffydd o siccrwydd, eithr nid o'r faith hyn y bu eich ffydd chwi, fall y gweddei, ac am hynny er bod gennich chwi gynt, ac in awr lawyer o tangneddyf a llawenydd, etto nid ydyw hyn, in arwydd ddidwyll, o fod eich ffydd chwi in cywir, canys efe a ddichon fod i din ryw ysgyfliadau aruthr, je efe a all fod iddo lawenydd mawr, fall pecipied ef i fynu i'r trydydd nef, ac hygoeledd cadarn o fod ei cyflwr ef in dda ddigon, ac etto ni fydd ef oscattfydd, onid rhagrhithiwr er hyn igyd, ac am hynny yr attolygaf arnoch in ngeiriau 'r Apostol: Ar i chwi profi eich hunan, a ydych in y ffydd: je holwch eich hunan a'i nid ydych in adnabod eich hunan,