A41643:205
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
IV. A'r ôl hyn, fe ganlyn didoliad o'r da oddiwrth y drŵg, o'r etholedig oddiwrth y Gwrthodedig. Canys Christ, ar yr ymddangosiad cyntaf o bawb ger bron ei orsedd-faingc ef, i ddangos ei ffafr grasol a'i ewyllys da i'r ffyddloniaid, a'u gwahana hwynt oddiwrth eraill, ac a'i gesyd ar ei ddeheulaw, fell diadell o ddefaid, y rhai y mae in ei frŷd eu cymeryd in eiddo ei hun. Ac yno y gesyd yr annuwiol a'r anffyddloniaid ar ei law asswy, i ddangos ei fôd in eu gwrthod hwynt, a bôd in ei frŷd rôi barn ofnadwy arnynt, fell y dywed ef ei hun. Mat. 25.32, 33.
IV. A'r ôl hyn, fe ganlyn didoliad o'r da oddiwrth y drŵg, o'r etholedig oddiwrth y Gwrthodedig. Canys Christ, ar yr ymddangosiad cyntaf o bawb ger bron ei orsedd-faingc ef, i ddangos ei ffafr grasol a'i ewyllys da i'r ffyddloniaid, a'u gwahana hwynt oddiwrth eraill, ac a'i gesyd ar ei ddeheulaw, fel diadell o ddefaid, y rhai y mae yn ei frŷd eu cymeryd yn eiddo ei hun. Ac yno y gesyd yr annuwiol a'r anffyddloniaid ar ei law asswy, i ddangos ei fôd yn eu gwrthod hwynt, a bôd yn ei frŷd rôi barn ofnadwy arnynt, fel y dywed ef ei hun. Mat. 25.32, 33.
V. Ar ôl kin, fe ganlyn argyoeddiadd yr annnwiol, a datcuddiad o'u holl weithredoedd. Yr hyn sydd gymmwys i fôd o flaen rhoddi barn. Holl ddrygioni eu bywyd a ddygir i oleuni, i dremio arnynt in eu hwyneb, ac a osodir â'r fâth eglurdeb di-ddadl in eu herbyn, fell y safant in fûd ger bron eu Barnwr heb ganddynt air iw ddywedyd i ymesgusodi, ac iw dievogi eu hunain oddiwrth y Cŵyn a'r ddadl ofnadwy a rôir in eu herbyn.
V. Ar ôl kyn, fe ganlyn argyoeddiadd yr annnwiol, a datcuddiad o'u holl weithredoedd. Yr hyn sydd gymmwys i fôd o flaen rhoddi barn. Holl ddrygioni eu bywyd a ddygir i oleuni, i dremio arnynt yn eu hwyneb, ac a osodir â'r fâth eglurdeb di-ddadl yn eu herbyn, fel y safant yn fûd ger bron eu Barnwr heb ganddynt air iw ddywedyd i ymesgusodi, ac iw dieuogi eu hunain oddiwrth y Cŵyn a'r ddadl ofnadwy a rôir yn eu herbyn.