A41643:366
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Os ydyw ddrwg gennitti o'th gallon ddarfod itti gynt wrthod, ac wit yr awron in wîr-ewyllysgar i ymwasgu â Christ, mi allaf ddywedyd in hŷf, nad aeth dy did grâs di heibio. Canys y cynhyrfiadau hynny, a weithiwyd ynoti trwy Yspryd Duw, sydd arwyddion grasol, ei fôd ef etto in barod i wneuthur itti ddaioni, os ti a'i derbyn.
2. Os ydyw ddrwg gennitti o'th galon ddarfod itti gynt wrthod, ac wyt yr awron yn wîr-ewyllysgar i ymwasgu â Christ, mi allaf ddywedyd yn hŷf, nad aeth dy ddydd grâs di heibio. Canys y cynhyrfiadau hynny, a weithiwyd ynoti trwy Yspryd Duw, sydd arwyddion grasol, ei fôd ef etto yn barod i wneuthur itti ddaioni, os ti a'i derbyn.
3. Tydi, yr hwn a ofni ddarfod dy did Grâs, gwybydd hyn, os witty in cael ynot dy hun ewyllysgarwch yr awron i fwrw ymaith dy hên drachwantan ath bechodau, ac i fôd in Greadur newydd; i fwrw ymaith wasanaeth Diafol, ac i fod in wâs i'r Arglwydd Jesus, nid aeth dy did grâs di heibio.
3. Tydi, yr hwn a ofni ddarfod dy ddydd Grâs, gwybydd hyn, os wyti yn cael ynot dy hun ewyllysgarwch yr awron i fwrw ymaith dy hên drachwantan ath bechodau, ac i fôd yn Greadur newydd; i fwrw ymaith wasanaeth Diafol, ac i fod yn wâs i'r Arglwydd Jesu, nid aeth dy ddydd grâs di heibio.
Ni fynnwn ni trwy y pethau hyn gryfhâu nêb i oedi o did i did i drôi ymaith oddiwrth ei bechodau, gan ryfygu y ceiff ef drugaredd in y diwedd. Gochel yr ynfydrwydd hyn. Tydi yr hwn ni finny heddyw, f' all dy enaid fôd in uffern cyn y foru. And yr wyf in dywedyd hyn i annog hên bechaduriaid i drôi a'r frŷs. Tydi hên bechadur! yr awr ddiweddaf ydyw, am a wyddosti, ti a ddaethost bellach in siccr hŷd at, Yr awron, neu nid bŷth. Ac mi a fynnwn ddywedyd daubeth wrthit.