A41643:457
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
VIII. Dledswydd arall enwedigol in perthyn i'r rhai a Ail-anwyd, yw, Ceisio, in arfer pôb mod daionus, farweiddio holl gorph y pechod, a'i holl wyniau a'i chwantau; in enwedig y rhai hynny yr ydym in eu cael in fwyaf eu rhwysg ynom. Mae gwîr farweiddiad in ymestyn at y cwbl o bechod, y Corph a'r aelodau, y gwreiddin a'r gangen; self pôb trachwant pechadurus. Ni chyflawnir in wîr hid yr eithaf, tra fyddom fyw yma: fy meddwl yw, ni farweiddir ac ni ddestrywir felly mo'r pechod yma, fell na bo in cael dim lle, nac in gweithio in ein calonnau: Etto fe ellir felly ei wanhâu a'i ddarostwng, fell y collo ei fywiogrwydd, ei rim a'i nerth ac y toddo ymaith fwyfwy. Er bôd llygredigaeth in cadw meddiant ynom ni, wedi ein hail-eni. etto nid yw in arglwyddaethu arnom ni; er ein bôd ni in Gaethion i bechod, etto ni byddwn o'n bôdd in weision iddo, i ymostwng o'n gwirfodd i Orchmynion pechod.
VIII. Dledswydd arall enwedigol yn perthyn i'r rhai a Ail-anwyd, yw, Ceisio, yn arfer pôb modd daionus, farweiddio holl gorph y pechod, a'i holl wyniau a'i chwantau; yn enwedig y rhai hynny yr ydym yn eu cael yn fwyaf eu rhwysg ynom. Mae gwîr farweiddiad yn ymestyn at y cwbl o bechod, y Corph a'r aelodau, y gwreiddin a'r gangen; sef pôb trachwant pechadurus. Ni chyflawnir yn wîr hyd yr eithaf, tra fyddom fyw yma: fy meddwl yw, ni farweiddir ac ni ddestrywir felly mo'r pechod yma, fel na bo yn cael dim lle, nac yn gweithio yn ein calonnau: Etto fe ellir felly ei wanhâu a'i ddarostwng, fel y collo ei fywiogrwydd, ei rym a'i nerth ac y toddo ymaith fwyfwy. Er bôd llygredigaeth yn cadw meddiant ynom ni, wedi ein hail-eni. etto nid yw yn arglwyddaethu arnom ni; er ein bôd ni yn Gaethion i bechod, etto ni byddwn o'n bôdd yn weision iddo, i ymostwng o'n gwirfodd i Orchmynion pechod.
Cwest. Pa fodd y mae ini wybod fôd llygredigaeth wedi ei farweiddio ynom?