A41643:70
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau…Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau…
Gair i bechaduriaid, a gair i saint Y cyntaf in tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont in byw in eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, in tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd in gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.Gair i bechaduriaid, a gair i sainct Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi cydwybodau pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ysturiaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr naturiol heb yr ail-enedigaeth. Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i berswadio y duwiol, a'r rhai a ail-anwyd i amryw ddledswyddau enedkigol. Gan Tho, Gouge gweinidog yr efengyl. Ac a gyfieithwyd yn gymraec gan W. Jones gweinidog yr egengyl.
Printiedig in Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, in y flwyddyn 1676Printiedig yn Llundain : gan A. Maxwell i'r Awdwr, yn y flwyddyn 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Mae pechod a llygredigaeth in aros ym mhawb wedi eu hail-eni, tra fo eu heneidiau in aros in eu Cyrph marwol; mae in aros, er nad yw in teyrnasu ynddynt. fe fwrir i lawr in y bŷd hwn, and ni lwyr fwrir ef allan. Habitat, sed non regnat; manet, sed non dominatur; dejectum, sed non ejectum tameu &c. Bern. in serm. 10. Psal. 90.
Mae pechod a llygredigaeth yn aros ym mhawb wedi eu hail-eni, tra fo eu heneidiau yn aros yn eu Cyrph marwol; mae yn aros, er nad yw yn teyrnasu ynddynt. fe fwrir i lawr yn y bŷd hwn, ond ni lwyr fwrir ef allan. Habitat, sed non regnat; manet, sed non dominatur; dejectum, sed non ejectum tameu &c. Bern. in serm. 10. Psal. 90.
A hyn mae Duw mewn mawr ddoethineb in ei adel, i'n cadw ni in issel ac in ostyngedig ynom ein hunain, ac i'n gyrru ni at Jesus Ghrist, fell tra fo y ffynhonnell hon o waed in rhedeg, y byddem bob amser in chwannog i gyffwrdd ag ymyl ei wîsg ef.
A hyn mae Duw mewn mawr ddoethineb yn ei adel, i'n cadw ni yn issel ac yn ostyngedig ynom ein hunain, ac i'n gyrru ni at Jesu Ghrist, fel tra fo y ffynhonnell hon o waed yn rhedeg, y byddem bob amser yn chwannog i gyffwrdd ag ymyl ei wîsg ef.
And a'r farwolaeth, y llygredigaeth hwnnw a lwyr yssir i fynu, a chorph ac enaid a lwyr ryddheîr oddiwrtho: In gymmaint ac ar yr adgyfodiad, pan gyssyllter drachefn yr enaid a'r Corph, yr ail-enedigaeth wedi ei ddechreu in y bŷd hwn a ddangosir ei fod in lawn berffaith. And in y bywyd hwn y rhai goreu sydd ammherffaith, trwy weddillion pechod a llygredigaeth, yr hyn a erys ynddynt, tra yr arhofont in y bŷd hwn.