A41646:100
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu…Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu…
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu deal / gan T.G.Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu deall / gan T.G.
Llundain : Printiedig in Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr in y flwyddyn, 1676Llundain : Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr yn y flwyddyn, 1676
PRINCIPLAU neu BENNAU Y GREFYDD GHRISTIANOGOL Wedi eu Agoryd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
2. Yr oedd Crediniaeth ynfyd, in rhoi coel a'r ddiafol. fe ddywedasei Duw, Gan farw y byddwch farw; A Diafol a ddywedodd, Ni fyddwch farw ddim. Etto y wraig, (a'r Gŵr trwyddi hi) a goeliodd in fwy i'r cythrael, Tâd y celwydd; nag i Dduw, Tâd y gwirionedd.
2. Yr oedd Crediniaeth ynfyd, yn rhoi coel a'r ddiafol. fe ddywedasei Duw, Gan farw y byddwch farw; A Diafol a ddywedodd, Ni fyddwch farw ddim. Etto y wraig, (a'r Gŵr trwyddi hi) a goeliodd yn fwy i'r cythrael, Tâd y celwydd; nag i Dduw, Tâd y gwirionedd.
3. Balchder trahâus, in chwennych bôd fell Duwiau. Canys pan ddywedodd Diafol, Chwi a fyddwch fell Duwiau in gwybod da â drwg, yr oedd y fâth ymchwydd ynddynt, ac y trosseddasant.
3. Balchder trahâus, yn chwennych bôd fel Duwiau. Canys pan ddywedodd Diafol, Chwi a fyddwch fel Duwiau yn gwybod da â drwg, yr oedd y fâth ymchwydd ynddynt, ac y trosseddasant.
4. Lladrad. Canys hwy a gymerasant yr hyn nid oedd eiddynt, and trwy orchymmyn enwedigol a gadwesid oddiwrthynt. Canys fe waharddasei Duw in eglur iddynt fwytta o'r pren hwnnw.
4. Lladrad. Canys hwy a gymerasant yr hyn nid oedd eiddynt, ond trwy orchymmyn enwedigol a gadwesid oddiwrthynt. Canys fe waharddasei Duw yn eglur iddynt fwytta o'r pren hwnnw.