A41646:188
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu…Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu…
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu deal / gan T.G.Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu deall / gan T.G.
Llundain : Printiedig in Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr in y flwyddyn, 1676Llundain : Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr yn y flwyddyn, 1676
PRINCIPLAU neu BENNAU Y GREFYDD GHRISTIANOGOL Wedi eu Agoryd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gan fôd Christ in Dduw, Trwy ei farwolaeth fe orchfygodd farwolaeth, a'r hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, Diafol, Heb. 2. 14.
Gan fôd Christ yn Dduw, Trwy ei farwolaeth fe orchfygodd farwolaeth, a'r hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo, hynny yw, Diafol, Heb. 2. 14.
3. Fell y gallai ei ufudd-dod a'i ddioddefaint ef fod o werth a phris anfeidrol.
3. Fel y gallai ei ufudd-dod a'i ddioddefaint ef fod o werth a phris anfeidrol.
Yr hyn a wnaeth ufudd-dod a marwolaeth Christ o'r fâth werth anfeidrol, oedd, ei fod in ufudd-dod ac in farwolaeth Mâb Duw, yr hwn oedd Dduw in gystal a dŷn. Gan fôd y Duwdod in un nature ym mherson ein Prynwr ni, yr oedd anfeidrol haeddiant in canlyn ei berson ef, a'r cwbl a wnaeth efe ac a ddioddefodd trosom.
Yr hyn a wnaeth ufudd-dod a marwolaeth Christ o'r fâth werth anfeidrol, oedd, ei fod yn ufudd-dod ac yn farwolaeth Mâb Duw, yr hwn oedd Dduw yn gystal a dŷn. Gan fôd y Duwdod yn un natur ym mherson ein Prynwr ni, yr oedd anfeidrol haeddiant yn canlyn ei berson ef, a'r cwbl a wnaeth efe ac a ddioddefodd trosom.