Ufudd-dod gwneuthurol Christ oedd in lawn berffaith; canys efe a lwyr-gyflawnodd yr hyn oll yr oedd cyfraith Dduw in ei ofyn; yr hyn y mae efe in ei yspysu in ei ymadrodd wrth Joan Fedyddiwr, (Mat. 3. 15.) ⟨p. 14⟩Gweddus ini gyflawni pob cyfiawnder. Ac fell yr ymostyngodd Christ i'r Ddeddf, ac a'i cyflawnodd trosom ni, in ein lle ni, trwy'r hyn y pwrcasodd efe fywyd tragwyddol ac jechydwriaeth ini; felly hefyd y dioddefodd ef y gospedigaeth oedd ddyledus ini am ein pechodau, a thrwy hynny a'n gwaredodd oddiwrth farwolaeth ac uffern. Am hynny y dywed yr Apostol, (Eph. 1. 7.) Mae ini brynedigaeth trwy ei waed ef. Hynny yw, trwy farwolaeth a dioddefaint gwaedlyd Jesus Ghrist y prynir (neu y gwaredir) ni oddiwrth ein holl bechodau. Etto ni ddeellir hyn felly, fell pettem ni wedi ein gwaredu oddiwrth y felldith trwy ufudd-dod dioddefol Christ, a'n gwneuthur in etifeddion gogoniant trwy ei ufudd-dod gwnouthurol ef, ystyriedig in wahanredol; and trwy ei ufudd-dod gwneuthurol a dioddefol ef in gyssylltedig, i'n gwaredir oddiwrth y felldith, ac y mae ini hawl breiniol i ogoniant.
Ufudd-dod gwneuthurol Christ oedd yn llawn berffaith; canys efe a lwyr-gyflawnodd yr hyn oll yr oedd cyfraith Dduw yn ei ofyn; yr hyn y mae efe yn ei yspysu yn ei ymadrodd wrth Ioan Fedyddiwr, (Mat. 3. 15.) ⟨p. 14⟩Gweddus ini gyflawni pob cyfiawnder. Ac fel yr ymostyngodd Christ i'r Ddeddf, ac a'i cyflawnodd trosom ni, yn ein lle ni, trwy'r hyn y pwrcasodd efe fywyd tragwyddol ac iechydwriaeth ini; felly hefyd y dioddefodd ef y gospedigaeth oedd ddyledus ini am ein pechodau, a thrwy hynny a'n gwaredodd oddiwrth farwolaeth ac uffern. Am hynny y dywed yr Apostol, (Eph. 1. 7.) Mae ini brynedigaeth trwy ei waed ef. Hynny yw, trwy farwolaeth a dioddefaint gwaedlyd Iesu Ghrist y prynir (neu y gwaredir) ni oddiwrth ein holl bechodau. Etto ni ddeellir hyn felly, fel pettem ni wedi ein gwaredu oddiwrth y felldith trwy ufudd-dod dioddefol Christ, a'n gwneuthur yn etifeddion gogoniant trwy ei ufudd-dod gwnouthurol ef, ystyriedig yn wahanredol; ond trwy ei ufudd-dod gwneuthurol a dioddefol ef yn gyssylltedig, i'n gwaredir oddiwrth y felldith, ac y mae ini hawl breiniol i ogoniant.