A41646:236
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu…Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu…
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu deal / gan T.G.Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu deall / gan T.G.
Llundain : Printiedig in Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr in y flwyddyn, 1676Llundain : Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr yn y flwyddyn, 1676
PRINCIPLAU neu BENNAU Y GREFYDD GHRISTIANOGOL Wedi eu Agoryd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y gair Cyfryngiad sydd in briodol in arwyddoccâu erfyniad tros un arall. F' ai rhoddir i Ghrist fell y mae ef in awr in y Nefoedd, trwy gyff'lybiaeth. Y gyff'lybiaeth a ellir ei chymeryd oddiwrth un a fo mewn ffafr mawr gyd a'r Brenin, yr hwn sydd in wastad in y llŷs yngŵydd y Brenin, ac yno mae in cyflwyno Dymuniad eu gyfeillion, ac in eiriol am ei gyflowni. Mae Christ, sydd mewn ffafr mawr gyd a'r Arglwydd, in sefyll o'i flaen ef in wastadol i gyflwyno ein erfynion ni, ac i berry iddynt fôd in gymeradwy.
Y gair Cyfryngiad sydd yn briodol yn arwyddoccâu erfyniad tros un arall. F' ai rhoddir i Ghrist fel y mae ef yn awr yn y Nefoedd, trwy gyff'lybiaeth. Y gyff'lybiaeth a ellir ei chymeryd oddiwrth un a fo mewn ffafr mawr gyd a'r Brenin, yr hwn sydd yn wastad yn y llŷs yngŵydd y Brenin, ac yno mae yn cyflwyno Dymuniad eu gyfeillion, ac yn eiriol am ei gyflowni. Mae Christ, sydd mewn ffafr mawr gyd a'r Arglwydd, yn sefyll o'i flaen ef yn wastadol i gyflwyno ein erfynion ni, ac i beri iddynt fôd yn gymeradwy.
Cwest.
Pa fodd y mae Christ, a'r pethau a wnaeth ac a ddioddefodd ef, in mined in eiddom ni?
Pa fodd y mae Christ, a'r pethau a wnaeth ac a ddioddefodd ef, yn myned yn eiddom ni?