A41646:245
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu…Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu…
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu deal / gan T.G.Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu deall / gan T.G.
Llundain : Printiedig in Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr in y flwyddyn, 1676Llundain : Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr yn y flwyddyn, 1676
PRINCIPLAU neu BENNAU Y GREFYDD GHRISTIANOGOL Wedi eu Agoryd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In gyntaf, meddaf, Gwîr ffydd jachusol sydd râs a weithir ynom gan Yspryd Duw, trwy weinidogaeth y Gair, oblegid hwnnw yw'r mod arferol, trwy ban y mae Yspryd Duw in gweithio ffydd in ein calonnau. Gwir yw, y gall darllein yr ysgrythyrau, a llyfrau da, fôd drwy fendith Dduw in fodd i weithio ffydd; and siccr jawn ydyw may 'r Môdd arferol ydyw'r Gair a bregether. Rhuf. 10. 17. Ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy Air Duw.
Yn gyntaf, meddaf, Gwîr ffydd iachusol sydd râs a weithir ynom gan Yspryd Duw, trwy weinidogaeth y Gair, oblegid hwnnw yw'r modd arferol, trwy ba un y mae Yspryd Duw yn gweithio ffydd yn ein calonnau. Gwir yw, y gall darllein yr ysgrythyrau, a llyfrau da, fôd drwy fendith Dduw yn fodd i weithio ffydd; ond siccr iawn ydyw mai 'r Môdd arferol ydyw'r Gair a bregether. Rhuf. 10. 17. Ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy Air Duw.
Canys in gyntaf, y Ddeddf sy'n dangos ini ein pechodau, a'n cyflwr truan trwy hynny; ein bôd ni in llwyrgolledig ynom ein hunain, gan ein bod ni in evog, ac in haeddu pôb mâth a'r farnau a phláau in y bŷd hwn a marwolaeth dragwyddol a damnedigaeth in y bŷd a ddaw; a'n bôd ni hefyd in llŵyr-ddinerth i'n gwaredu ein hunain o'n cyflwr truan, y darfu ini trwy ein pechod ein taflu ein hunain iddo.
Canys yn gyntaf, y Ddeddf sy'n dangos ini ein pechodau, a'n cyflwr truan trwy hynny; ein bôd ni yn llwyrgolledig ynom ein hunain, gan ein bod ni yn euog, ac yn haeddu pôb mâth a'r farnau a phláau yn y bŷd hwn a marwolaeth dragwyddol a damnedigaeth yn y bŷd a ddaw; a'n bôd ni hefyd yn llŵyr-ddinerth i'n gwaredu ein hunain o'n cyflwr truan, y darfu ini trwy ein pechod ein taflu ein hunain iddo.
Ac yno 'r Efengyl a ddengys ini ddarfod i Jesus Ghrist, (tragwyddol fâb Duw) ynghyflownder yr amser, ddyfod i'r bŷd, cymeryd ein nature ni arno, ac ynddi mined in fey hieu ini; ac fell ein meichieu ni gymeryd ein holl ddylêd ni arno; a thrwy ei ufudd-dod, a llawnddigonol Aberth ei gorph ei hun, a offrymmodd efe, unwaith a'r y Gross, wneuthur cyflawn jawn i gyfiawnder Duw am danynt.