A41646:251
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu…Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu…
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu deal / gan T.G.Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu deall / gan T.G.
Llundain : Printiedig in Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr in y flwyddyn, 1676Llundain : Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr yn y flwyddyn, 1676
PRINCIPLAU neu BENNAU Y GREFYDD GHRISTIANOGOL Wedi eu Agoryd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Fe ganlyn in yr eglurháad o'r blaen o ffydd, pa fodd y mae ini dderbyn Christ, self, fell y cynnigir ef in yr Efengyl. Christ a gynnigir in yr Efengyl in ei holl Swyddau, megis Offeiriad, Prophwyd a Brenin. Ac felly rhaid ini ei dderbyn ef, nid in unig megis Offeiriad, yr hwn a wnaeth jawn trosom ni, trwy ei farwolaeth a'r y Gross, ac yr awron sydd in eiriol trosom in y Nefoedd: And hefyd megis ein Prophwyd, i gael ein dysgu a'n hyfforddi ganddo; ac hefyd megis ein Brenin i gymeryd ein rheoli a'n llywodraethu ganddo; a rhaid ini mor ewyllysgar ein taflu ein hunain wrth draed Christ mewn ymostyngiad iddo, ac in ei freichiau am jechydwriaeth oddiwrtho: rhaid ini fod mor barod i was'naethu Jesus Ghrist, ac i gael ein hachub ganddo. Gan may hyn oedd arfaeth Duw in ein gwaredu ni o'n caethiwed ysprydol, in yr hwn yr oeddym wrth nature, self, Ei was'naethu ef in ddiofn, mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder gar ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.
Fe ganlyn yn yr eglurháad o'r blaen o ffydd, pa fodd y mae ini dderbyn Christ, sef, fel y cynnigir ef yn yr Efengyl. Christ a gynnigir yn yr Efengyl yn ei holl Swyddau, megis Offeiriad, Prophwyd a Brenin. Ac felly rhaid ini ei dderbyn ef, nid yn unig megis Offeiriad, yr hwn a wnaeth iawn trosom ni, trwy ei farwolaeth a'r y Groes, ac yr awron sydd yn eiriol trosom yn y Nefoedd: Ond hefyd megis ein Prophwyd, i gael ein dysgu a'n hyfforddi ganddo; ac hefyd megis ein Brenin i gymeryd ein rheoli a'n llywodraethu ganddo; a rhaid ini mor ewyllysgar ein taflu ein hunain wrth draed Christ mewn ymostyngiad iddo, ac yn ei freichiau am iechydwriaeth oddiwrtho: rhaid ini fod mor barod i was'naethu Iesu Ghrist, ac i gael ein hachub ganddo. Gan mai hyn oedd arfaeth Duw yn ein gwaredu ni o'n caethiwed ysprydol, yn yr hwn yr oeddym wrth natur, sef, Ei was'naethu ef yn ddiofn, mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder gar ei fron ef holl ddyddiau ein bywyd.
In offer gan hynny y mae r'heini in eu twyllo eu hunain, y rhai a ewyllysiant dderbyn Christ megis Prynwr, and nid fell Rheolwr; megis Jachawdr, nid megis Arglwydd a Brenin. Gwybydded y cyfryw, na fydd Christ in Jachawdr i nêb, a'r nid yw in Arglwydd ac in Frenin iddynt Ei ddeiliaid in unig a achub ef, ac nid neb arall; canys ni ranna ef mo'i Swyddau.