A41646:672
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu…Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu…
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu deal / gan T.G.Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu deall / gan T.G.
Llundain : Printiedig in Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr in y flwyddyn, 1676Llundain : Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr yn y flwyddyn, 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Fell y deallom in well lawnfwriad y Dymuniad hwn, gwybyddwn, fod Enw Duw in cael ei Sancteiddio gennym bedair ford.
Fel y deallom yn well lawnfwriad y Dymuniad hwn, gwybyddwn, fod Enw Duw yn cael ei Sancteiddio gennym bedair ffordd.
1. Pan fo'm in meddwl am Dduw, ac in cydnabod ag ef, fell y datguddiodd efe ei hun in ei Air, ei fod ef in lawn Mawredd a Gallu, in dragwyddol, in gwybod y cwbl, in bresennol ym mhob lle; je in anfeidrol mewn Doethineb, Sancteiddrwydd, Trugaredd, Cyfiawnder, a'r cyfryw.
1. Pan fo'm yn meddwl am Dduw, ac yn cydnabod ag ef, fel y datguddiodd efe ei hun yn ei Air, ei fod ef yn llawn Mawredd a Gallu, yn dragwyddol, yn gwybod y cwbl, yn bresennol ym mhob lle; ie yn anfeidrol mewn Doethineb, Sancteiddrwydd, Trugaredd, Cyfiawnder, a'r cyfryw.
2. Pan fo'm in ei Sancteiddio ef in ein calonnau, yr hyn sydd, pan fo'm in ei garu ef, ac in ei ofni ef uwchlaw pawb, ac in rhoi ein holl obaith a'n hither arno ef uwchlaw pawb a'm gyflawni ein holl anghenion a'n diffygion.
2. Pan fo'm yn ei Sancteiddio ef yn ein calonnau, yr hyn sydd, pan fo'm yn ei garu ef, ac yn ei ofni ef uwchlaw pawb, ac yn rhoi ein holl obaith a'n hyder arno ef uwchlaw pawb a'm gyflawni ein holl anghenion a'n diffygion.