A41646:746
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu…Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu…
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu deal / gan T.G.Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu deall / gan T.G.
Llundain : Printiedig in Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr in y flwyddyn, 1676Llundain : Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr yn y flwyddyn, 1676
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Canys yr ydym in gweddio a'r Dduw i faddeu ini, Felly, ac nid amgen, nag yr ydym ninnau in maddeu i'r rhai a wnaethant gam â ni. Oni faddeuwn ni gan hynny i eraill, yr ydym in gweddio a'r Dduw na faddevo ef ini, and ein condemnio ni. Ein doethineb ni gan hynny ydyw maddeu, rhag ini, trwy naccâu a châu i fynu ein calonnau oddiwrth ein brodyr, gâu allan Trugaredd Duw oddiwrthym ein hunain. Canys Barn ddidrugaredd a fydd i'r hwn ni wnaeth drugaredd. Jac. 2. 13.
Canys yr ydym yn gweddio a'r Dduw i faddeu ini, Felly, ac nid amgen, nag yr ydym ninnau yn maddeu i'r rhai a wnaethant gam â ni. Oni faddeuwn ni gan hynny i eraill, yr ydym yn gweddio a'r Dduw na faddeuo ef ini, ond ein condemnio ni. Ein doethineb ni gan hynny ydyw maddeu, rhag ini, trwy naccâu a châu i fynu ein calonnau oddiwrth ein brodyr, gâu allan Trugaredd Duw oddiwrthym ein hunain. Canys Barn ddidrugaredd a fydd i'r hwn ni wnaeth drugaredd. Jac. 2. 13.
Megis Eglurhad ini o faddevant Duw o'n pechodau a'n camweddau ni a wnaethom in ei erbyn ef.
Megis Eglurhad ini o faddeuant Duw o'n pechodau a'n camweddau ni a wnaethom yn ei erbyn ef.
Canys ein maddevant ni i'n Cymmydog sydd ffrwyth in canlyn Cariad Duw tuac atom ni in maddeu ein pechodau a wnaethom in ei erbyn ef. Canys disglair belydr ydyw o'r Grâs hwnnw a'r Drugaredd a dderbyniasom ni ein hunain gan yr Arglwydd. Fell y mynnem ni gan hynny gael siccrwydd o Drugaredd Duw tuac atom in maddeu ein pechodau, byddwn barod ac ewyllysgar i faddeu i'r rhai a wnaethant i'n herbyn. Canys oddiwrth ein parodrwydd i faddeu iddynt hwy y gallwn brofi cariad Duw tuac atom ni in maddeu ein pechodau a wnaethom iw erbyn, yr hyn yw ymresymmiad ein Jachawdr.