A41646:98
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu…Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu…
Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fell y gallo y gwannaf eu deal / gan T.G.Principlau neu bennau y grefydd Ghristianogol a agorir fel y gallo y gwannaf eu deall / gan T.G.
Llundain : Printiedig in Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr in y flwyddyn, 1676Llundain : Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r awdwr yn y flwyddyn, 1676
PRINCIPLAU neu BENNAU Y GREFYDD GHRISTIANOGOL Wedi eu Agoryd.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y pechod in enwedigol oedd in anufuddhâu i orchymmyn Duw; yr hwn orchymmyn a roesei efe iddo i brofi ei ufudd-dod ef. Fe all lawyer ysgatfydd feddwl y pechod hwn in beth ysgafn, ac ŷnt in barod i roi toster in erbyn Duw am gospi dŷn cymmaint am fai cyn lleied. And os edrychant a'r yr amryw bechodau cynnwysedig in y troseddiad hwnnw, rhaid iddynt gydnabod ei fod in bechod tramawr. Canys,
Y pechod yn enwedigol oedd yn anufuddhâu i orchymmyn Duw; yr hwn orchymmyn a roesei efe iddo i brofi ei ufudd-dod ef. Fe all llawer ysgatfydd feddwl y pechod hwn yn beth ysgafn, ac ŷnt yn barod i roi toster yn erbyn Duw am gospi dŷn cymmaint am fai cyn lleied. Ond os edrychant a'r yr amryw bechodau cynnwysedig yn y troseddiad hwnnw, rhaid iddynt gydnabod ei fod yn bechod tramawr. Canys,
1. Yr oedd ynddo Anghrediniaeth, am na chredent i air Duw. Canys er i Dduw ddywedyd, Y did y bwyttei o hono, gan farw ti a fyddi farw. Gen. 2. 17. Etto ni chredent y byddent feirw, and ammeu a gwneuthur Cwestiwn o hynny.
1. Yr oedd ynddo Anghrediniaeth, am na chredent i air Duw. Canys er i Dduw ddywedyd, Y dydd y bwyttei o hono, gan farw ti a fyddi farw. Gen. 2. 17. Etto ni chredent y byddent feirw, ond ammeu a gwneuthur Cwestiwn o hynny.
2. Yr oedd Crediniaeth ynfyd, in rhoi coel a'r ddiafol. fe ddywedasei Duw, Gan farw y byddwch farw; A Diafol a ddywedodd, Ni fyddwch farw ddim. Etto y wraig, (a'r Gŵr trwyddi hi) a goeliodd in fwy i'r cythrael, Tâd y celwydd; nag i Dduw, Tâd y gwirionedd.
2. Yr oedd Crediniaeth ynfyd, yn rhoi coel a'r ddiafol. fe ddywedasei Duw, Gan farw y byddwch farw; A Diafol a ddywedodd, Ni fyddwch farw ddim. Etto y wraig, (a'r Gŵr trwyddi hi) a goeliodd yn fwy i'r cythrael, Tâd y celwydd; nag i Dduw, Tâd y gwirionedd.