A76162:172
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom…Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom…
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693Printiedig yn Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Atteb. Din gwedi ei demtio gan Satan, trwy bechu o'i wirfodd, a syrthiodd oddiwrth ei sancteiddrwydd, ei ddiniweidrwydd, a'i ddedwyddwch tan gyfiawnder a digofaint Duw, tan felldith a damnedigaeth y gyfraith, a chaethiwed y cnawd, y bid, a'r cythrael; oddiwrth yr hwn y mae nature bechadurus, evog, a thruenus in ymwascaru tros holl ddynol ryw: Ac ni ddichon yr un creadur ein gwaredu ni.
Atteb. Dyn gwedi ei demtio gan Satan, trwy bechu o'i wirfodd, a syrthiodd oddiwrth ei sancteiddrwydd, ei ddiniweidrwydd, a'i ddedwyddwch tan gyfiawnder a digofaint Duw, tan felldith a damnedigaeth y gyfraith, a chaethiwed y cnawd, y byd, a'r cythrael; oddiwrth yr hwn y mae natur bechadurus, euog, a thruenus yn ymwascaru tros holl ddynol ryw: Ac ni ddichon yr un creadur ein gwaredu ni.
Cwest. 4. Beth yr ydych chwi in ei gredu ynghylch prynedigaeth din trwy Jesus Christ.
Cwest. 4. Beth yr ydych chwi yn ei gredu ynghylch prynedigaeth dyn trwy Jesu Crist.
Atteb. Felly y carodd Duw y bid, fell y rhoddodd efe ei unig anedig fâb, Joan 3. 16. i fod in Jachawdwr iddynt. Yr hwn ac efe in Dduw, ac in un a'r Tàd, a gymmerodd ein nature ni ac aeth in din, a gaed trwy yr yspryd Glan, a aned o fair forwyn, ac a alwyd Jesus Christ. Yr hwn oedd in berffaith sanctaidd, heb bechod, efe a gvflawnodd bob cyfiawnder; ac a orchfygodd y cythrael, â'r bid, ac a roddodd ei hun in Aberth tros ein pechodau ni, trwy ddiod lief marwolaeth felltigedig ar y Gross i'n prynu ni, ac i'n cymmodi ni â Duw; ac a gladdwyd, ac a aeth ymmlith y Meirw: Y trydydd did ese a adgyfododd, gan orchfygu marwolaeth, a selio y cyfammod newydd à'i waed, efe a orchymynnodd iw Apostolion, a Gwenidogion eraill, i bregethu 'r Efengyl i'r holl fyd; ac addawodd yr yspryd Glan; ac yna efe a dderchafodd i'r Nefoedd, ymmhale v mae efe in Dduw ac in din, in Ben gogoneddus uwch-law pob peth iw Eglwys, a'n cyfryngwr nerthol ni gydâ Duw yr Tâd.