A76162:181
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom…Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom…
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693Printiedig yn Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cwest. 8. Beth yr ydych in ei gredu am yr Adgyfodiad a bywyd Tragwyddol?
Cwest. 8. Beth yr ydych yn ei gredu am yr Adgyfodiad a bywyd Tragwyddol?
Atteb. Ar farwolaeth Eneidiau y rhai a gyfiawnhawyd ant i ddedwyddwch gydâ Christ, ac eneidiau y rhai annuwiol ant i drueni. Ac in niwedd y bid hwn, Christ a ddaw mewn Gogoniant, ac a gyfyd gyrph pawb oddiwrth farwolaeth, ac a farna bob din in ol eu gweithredoedd. A'r rhai cyfiawn ant i fywyd tragwyddol, ym mhale wedi eu perffeithio, hwy a gant welled Duw, ac in berffaith hwy ai carant ac ai moliannant ef gydâ Christ a'r holl Eglwys ogoneddus; a'r lleill i gospedigaeth dragwyddol.
Atteb. Ar farwolaeth Eneidiau y rhai a gyfiawnhawyd ant i ddedwyddwch gydâ Christ, ac eneidiau y rhai annuwiol ant i drueni. Ac yn niwedd y byd hwn, Crist a ddaw mewn Gogoniant, ac a gyfyd gyrph pawb oddiwrth farwolaeth, ac a farna bob dyn yn ol eu gweithredoedd. A'r rhai cyfiawn ant i fywyd tragwyddol, ym mhale wedi eu perffeithio, hwy a gant weled Duw, ac yn berffaith hwy ai carant ac ai moliannant ef gydâ Christ a'r holl Eglwys ogoneddus; a'r lleill i gospedigaeth dragwyddol.
Cwest. 9. Chwi a ddywedasoch i mi beth yr ydych chwi in ei gydsynnied ac in ei gredu: Dywedwch i mi in awr beth ydyw lawn fwriad a dymuniad eich ewyllys, ynghylch yr hyn oll yr ydych chwi in ei gredu?
Cwest. 9. Chwi a ddywedasoch i mi beth yr ydych chwi yn ei gydsynnied ac yn ei gredu: Dywedwch i mi yn awr beth ydyw llawn fwriad a dymuniad eich ewyllys, ynghylch yr hyn oll yr ydych chwi yn ei gredu?