A76162:218
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom…Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom…
Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fell y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.Dattodiad y qwestiwn mawr, beth sydd raid i ni ei wneuthur fel y byddom gadwedig. Athrawiaethau i fuchedd sanctaidd. / O waith y disinydd parchedig Mr. Richard Baxter.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693Printiedig yn Llundain : gan Tho. Whitledge a W. Everingham, 1693
Title page typeset from the transcription.
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ti a'm gwnaethosti in enaid byw, ac in berchennog o reswm, ac a'm gosodaisti tros amser in y Cnawd a'r Bŷd hwn, ith adnabod, a'th garu a'th wasanaethu di fy Nghreawdwr, â'm holl gallon, â'm holl Feddwl, ac â'm holl Nerth, fell y gallwn gyrhaeddyd ar y diwedd y gwobr o Ogoniant Nefol.
Ti a'm gwnaethosti yn enaid byw, ac yn berchennog o reswm, ac a'm gosodaisti tros amser yn y Cnawd a'r Bŷd hwn, ith adnabod, a'th garu a'th wasanaethu di fy Nghreawdwr, â'm holl galon, â'm holl Feddwl, ac â'm holl Nerth, fel y gallwn gyrhaeddyd ar y diwedd y gwobr o Ogoniant Nefol.
Ynghylch hyn y d•lasai fod fy ngofal mwyaf, a hwn a ddylasai fod fy ngorchwyl pennaf, a difyrrwch fy holl Fywyd: Yr oeddwn i'n rhwym i hynny trwy dy Gyfraith di: Ac fe'm gwahoddwyd i hynny gan dy Drugaredd di: Ac in fy Medydd, fo 'm cyssegrwyd i i'r Fuchedd sanctaidd hon, trwy Gyfammod ac Adduned Parchedig.
Ynghylch hyn y d•lasai fod fy ngofal mwyaf, a hwn a ddylasai fod fy ngorchwyl pennaf, a difyrrwch fy holl Fywyd: Yr oeddwn i'n rhwym i hynny trwy dy Gyfraith di: Ac fe'm gwahoddwyd i hynny gan dy Drugaredd di: Ac yn fy Medydd, fo 'm cyssegrwyd i i'r Fuchedd sanctaidd hon, trwy Gyfammod ac Adduned Parchedig.
Eithr och! Mysi a dorrais y Cyfammod hwnnw, ac a fûm in rhy-anffyddlon ynddo: Myfi a anghofiais, ac a esceulusais y Duw, yr Jachawdwr, a'r Sancteiddiwr, i'r hwn i'm cyssegrwyd ac i'm rhwymwyd: Ac a fawr wasanaethais y Cythrael, y Bŷd a'r Cnawd, y rhai yr ymwedais â hwynt: Fo'm ganwyd i mewn pechod, ac mi fûm byw in bechadurus: Mi fûm rhy-ddiofal am fy Enaid anfarwol, ac am y Gwaith mawr, yr hwn i'm crewyd, ac am prynwyd oi blegid: Myfi a dreuliais lawyer o'm hamser gwerthfawr mewn offered, ac mewn drwg amcanion, ac i ryngu bôdd fynghnawd llygredig: Ac mi a galedais fy nghalon in erbyn yr Addysc, trwy yr hon yr oedd dy lân Yspryd a'm Dyscawdwyr, a'm Cydwybod fy hun, in galw arnas i edifarhau ac i ddychwelyd attat ti.