A76257:1082
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd…Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd…
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn life â osodwyd allan in saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd in gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Eithr yr wit ti o Arglwydd in ymweled â myfi a'r cyfryw gerydd tadol, ac a arferi wrth ymweled a'th plant anwylaf; gan roddi i nay (trwy 'r clefyd hwn) in gystal rhybydd ac amser i edifarhau, ac i ymbil â thydi am râd a maddevant. Nid wyf in cymeryd gan hynny o Arglwydd moth ymweliad bin, in arwydd o ddigofaint na chasineb, eithr megis in ddiogelaf argoel ac arwydd o'th ffafr a'th rywiogrwydd cariadol, trwy 'r hyn yr ydwyt ti a'th Farnedigaethau amserol in fy nhynnu i'm bar•u fy hunan, ac i edifarhau o'm buchedd anwireddus, mal na byddwn gwedi fy mwrw heibio i ddamnedigaeth gyd a'r bŷd annuwiol diedifeiriol. Canys y mae dy air sanctaidd in fy siccrhau may 'r hwn a geri yr wit ti fell hyn in ei gospi, ath fod in fflangellu pob mab a dderbynni: ac os goddefaf fi dy gôsp, dy fod in ymgynnyg dy hun i mi megis ith Fâb, a bod yr holl ray abarhânt i bechu, ac er hynny a ddiangant in ddi-gerydd (o'r hyn y mae dy holl blant in gyfrannogion) in ordderchiaid, ac nid in feibion: ath fod ti in fyngheryddu o ran fy llês, megis y gallwn fod in gyfrannog o'th sancteiddrwydd. O Arglwydd mor lawn o ddaioni yw dy anian, mor rasusol y gwnaethost di â myfi in amser fy jechyd am helaethrwydd? ac yr awrhon gwedi dy gyffroi o herwydd fy mhechodau am anniolchgarwch, sy gennit y cyfryw dadol a buddiol ddibenion in gosod y dolur a'r cerydd hwn arnaf.
Eithr yr wyt ti o Arglwydd yn ymweled â myfi a'r cyfryw gerydd tadol, ac a arferi wrth ymweled a'th plant anwylaf; gan roddi i nai (trwy 'r clefyd hwn) yn gystal rhybydd ac amser i edifarhau, ac i ymbil â thydi am râd a maddeuant. Nid wyf yn cymeryd gan hynny o Arglwydd moth ymweliad byn, yn arwydd o ddigofaint na chasineb, eithr megis yn ddiogelaf argoel ac arwydd o'th ffafr a'th rywiogrwydd cariadol, trwy 'r hyn yr ydwyt ti a'th Farnedigaethau amserol yn fy nhynnu i'm bar•u fy hunan, ac i edifarhau o'm buchedd anwireddus, mal na byddwn gwedi fy mwrw heibio i ddamnedigaeth gyd a'r bŷd annuwiol diedifeiriol. Canys y mae dy air sanctaidd yn fy siccrhau mai 'r hwn a geri yr wyt ti fel hyn yn ei gospi, ath fod yn fflangellu pob mab a dderbynni: ac os goddefaf fi dy gôsp, dy fod yn ymgynnyg dy hun i mi megis ith Fâb, a bod yr holl rai abarhânt i bechu, ac er hynny a ddiangant yn ddi-gerydd (o'r hyn y mae dy holl blant yn gyfrannogion) yn ordderchiaid, ac nid yn feibion: ath fod ti yn fyngheryddu o ran fy llês, megis y gallwn fod yn gyfrannog o'th sancteiddrwydd. O Arglwydd mor llawn o ddaioni yw dy anian, mor rasusol y gwnaethost di â myfi yn amser fy iechyd am helaethrwydd? ac yr awrhon gwedi dy gyffroi o herwydd fy mhechodau am anniolchgarwch, sy gennit y cyfryw dadol a buddiol ddibenion yn gosod y dolur a'r cerydd hwn arnaf.