O Dad trugarog, yr hwn wit Arglwydd yr jechyd ar clefyd, y bywyd, a'r farwolaeth, yr hwn wit in llâdd, ac in gwneuthur in fyw, yr hwn wit in dwyn i wared i'r bêdd, ac in dwyn i fynu. Yr wyf in dyfod attat, megis at yr unig physygwr, yr hwn a ddichon jachau fy enaid oddiwrth bechod, am corph oddiwrth glefyd. Nid, wyf in deisyfu na bywyd na marwolaeth, and fy ymroi fy hun i'th ewyllys bendigedig. Canys er bod in rhaid i ni farw, a chwedi ein meirw, bod o'n bywyd megis dwfr a denid ar y ddaiar, yr hwn ni ellir moi gasclu drachefn: etto fe ddarfu i'th rasusol ragluniaeth (tra byddo bywyd in parhau) ddarparu a threfnu moddion, y rhai a finny di i'th plant eu harferu, a thrwy arfer cyfreithlon o honynt, i ddisgwyl dy fendith ar dy foddion er mwyn jachâd o'u clefydau, ac adferiad o'u hiechyd iddynt. Ac yr awrhon o Arglwydd in fy angenoctid hyn, fe ddarfu i mi in ol dy drefnedigaeth ddanfon am dy wâs, (y physygwr) yr hwn a baratoadd i mi y physygwriaeth yma, yr hwn yr wyf in ei dderbyn megis moddion gwedi eu danfon o'th tadol a'th cariadol law:1 yr wyf in attolwg it gan hynny, ⟨p. 336⟩megis trwy dy fendith ar y swp o ffigus y meddiginiaethaist gornwyd Hezekiah fell yr jachauwyd ef: A thrwy ymolchi saith waith in afon Jorddonen y glanhaist Naaman y Siriad o'i wahanglwyf: ac y rhoddaist ei olwg i'r din oedd ddall o'i enedigaeth, wrth iraw ei lygaid a'r clay ac a'r poer, a'i ddanfon ef i ymolchi i lyn Siloam: ac wrth gyffwrdd a'th law a mam gwraig Petr, yr jachavaist hi o'r Crŷd: ac yr jachavaist y wraig a gyffyrddodd ag ymyl dy wisc, oddiwrth y diferlif gwaed: felly rhynged bodd i't o'th ancirif dawn ath trugaredd, sancteiddio y physygwriaeth hyn i fod in fuddiol i mi, a rhoi y cyfryw fendith arno fell y gallo (os dy ewyllys bendigedig yw) symmud y clefyd hwn a'r boen oddiwrthif, am hadferu i'm hiechyd am nerth drachefn. And os yw rhif y dyddiau, y rhai a osodaist i mi i fyw in y dyffryn hwn o drueni, in t•nnu at eu diben, a darfod i ti ddanfon y clefyd hwn megis in gennad i'm galw i allan o'r bywyd marwof hwn, yno Arglwydd gwneler dy ewyllys bendigedig. Canys yr wyf in fy ymddarostwng fy hunan i'th ragluniaeth bendigedig.
O Dad trugarog, yr hwn wyt Arglwydd yr iechyd ar clefyd, y bywyd, a'r farwolaeth, yr hwn wyt yn llâdd, ac yn gwneuthur yn fyw, yr hwn wyt yn dwyn i wared i'r bêdd, ac yn dwyn i fynu. Yr wyf yn dyfod attat, megis at yr vnig physygwr, yr hwn a ddichon iachau fy enaid oddiwrth bechod, am corph oddiwrth glefyd. Nid, wyf yn deisyfu na bywyd na marwolaeth, ond fy ymroi fy hun i'th ewyllys bendigedig. Canys er bod yn rhaid i ni farw, a chwedi ein meirw, bod o'n bywyd megis dwfr a denid ar y ddaiar, yr hwn ni ellir moi gasclu drachefn: etto fe ddarfu i'th rasusol ragluniaeth (tra byddo bywyd yn parhau) ddarparu a threfnu moddion, y rhai a fynni di i'th plant eu harferu, a thrwy arfer cyfreithlon o honynt, i ddisgwyl dy fendith ar dy foddion er mwyn iachâd o'u clefydau, ac adferiad o'u hiechyd iddynt. Ac yr awrhon o Arglwydd yn fy angenoctid hyn, fe ddarfu i mi yn ol dy drefnedigaeth ddanfon am dy wâs, (y physygwr) yr hwn a baratoadd i mi y physygwriaeth yma, yr hwn yr wyf yn ei dderbyn megis moddion gwedi eu danfon o'th tadol a'th cariadol law:1 yr wyf yn attolwg it gan hynny, ⟨p. 336⟩megis trwy dy fendith ar y swp o ffigus y meddiginiaethaist gornwyd Ezechias fel yr iachauwyd ef: A thrwy ymolchi saith waith yn afon Jorddonen y glanhaist Naaman y Siriad o'i wahanglwyf: ac y rhoddaist ei olwg i'r dyn oedd ddall o'i enedigaeth, wrth iraw ei lygaid a'r clai ac a'r poer, a'i ddanfon ef i ymolchi i lyn Siloam: ac wrth gyffwrdd a'th law a mam gwraig Petr, yr jachauaist hi o'r Crŷd: ac yr jachauaist y wraig a gyffyrddodd ag ymyl dy wisc, oddiwrth y diferlif gwaed: felly rhynged bodd i't o'th ancirif ddawn ath trugaredd, sancteiddio y physygwriaeth hyn i fod yn fuddiol i mi, a rhoi y cyfryw fendith arno fel y gallo (os dy ewyllys bendigedig yw) symmud y clefyd hwn a'r boen oddiwrthif, am hadferu i'm hiechyd am nerth drachefn. Ond os yw rhif y dyddiau, y rhai a osodaist i mi i fyw yn y dyffryn hwn o drueni, yn t•nnu at eu diben, a darfod i ti ddanfon y clefyd hwn megis yn gennad i'm galw i allan o'r bywyd marwof hwn, yno Arglwydd gwneler dy ewyllys bendigedig. Canys yr wyf yn fy ymddarostwng fy hunan i'th ragluniaeth bendigedig.
- 11 Sam. 2.6. 2 Sam. 14.14.