3. Voluntate & opere, in gystal mewn ewyllys, a gweithred: Megis in y Brif-Eglwys, Stephen, Polycarpus, Ignatius, Laurentius, Romanus, Antiochanus, a miloedd. Ac in ein dyddiau ninnau Cranmer, Latimer, Hooper, Ridley, Farrar, Bradford, Philpot, Sanders, Glover, Taylor, ac ancirif o ray eraill: zêl cynnes y rhai hynny i wirionedd Duw, a'i dygodd i eirias-dân Merthyrdod, i selio ffydd Christ. 1 Pet. 2.19. Nid creulondeb y farwolaeth, eithr gwiriondeb, diniweidrwydd, a sancteiddrwydd yr achos sydd in gwneuthur Merthyr. Ac nid yw cydwybod gyfeiliornus in ddigon o achos i oddef Merthyrdod: oblegit gwybodaeth ing-Air Duw sydd raid i hyfforddi cydwybod ynghalon din. Canys yr rhai a laddasant yr Apostolion, in, en cydwybodau cyfeiliornus oeddynt in tybied fod in gwneuthur gwasanaeth da i Dduw. A Phaul o zèl, oedd in chwythu bygythiau, a chelanedd in erbyn Seinctiau yr Arglwydd. Joan. 16.2. Act. 9.1. Philip. 3.6. Yr awrhon pan a wna achos ein Offeiriaid a'n Myneich Rhufeiniaidd, a'i bod mor sanctaidd, union a diniweidiol, ac y gall ddiofalhau a siccrhau eu cydwybodau, i ddioddef marwolaeth ac î roddi pwys a goglyd eu tragwyddol jechydwriaeth arni: Bydded Epistol St Paul at yr hên Rufeiniaid (eithr in erbyn ein Rhufelniaid newyddion Anghristnogawl) in farnwr. Ac fe ymddengys in eglur, fod yr athrawiaeth, yr hon a ddyscodd St Paul ir hên Eglwys o Rufain, in union in y gwrthwyneb mewn 26 O sylfaenol byngciau gwir grefydd, i'r honey mae 'r Eglwys newydd o Rufain in ei ddyscu a'i maentumio: Canys yr oedd St Paul in dyscu y brif Eglwys o Rufain.
3. Voluntate & opere, yn gystal mewn ewyllys, a gweithred: Megis yn y Brif-Eglwys, Stephen, Polycarpus, Ignatius, Laurentius, Romanus, Antiochanus, a miloedd. Ac yn ein dyddiau ninnau Cranmer, Latimer, Hooper, Ridley, Farrar, Bradford, Philpot, Sanders, Glouer, Taylor, ac ancirif o rai eraill: zêl cynnes y rhai hynny i wirionedd Duw, a'i dygodd i eirias-dân Merthyrdod, i selio ffydd Crist. 1 Pet. 2.19. Nid creulondeb y farwolaeth, eithr gwiriondeb, diniweidrwydd, a sancteiddrwydd yr achos sydd yn gwneuthur Merthyr. Ac nid yw cydwybod gyfeiliornus yn ddigon o achos i oddef Merthyrdod: oblegit gwybodaeth yng-Air Duw sydd raid i hyfforddi cydwybod ynghalon dyn. Canys yr rhai a laddasant yr Apostolion, yn, en cydwybodau cyfeiliornus oeddynt yn tybied fod yn gwneuthur gwasanaeth da i Dduw. A Phaul o zèl, oedd yn chwythu bygythiau, a chelanedd yn erbyn Seinctiau yr Arglwydd. Ioan. 16.2. Act. 9.1. Philip. 3.6. Yr awrhon pa vn a wna achos ein Offeiriaid a'n Myneich Rhufeiniaidd, a'i bod mor sanctaidd, vnion a diniweidiol, ac y gall ddiofalhau a siccrhau eu cydwybodau, i ddioddef marwolaeth ac î roddi pwys a goglyd eu tragwyddol iechydwriaeth arni: Bydded Epistol St Paul at yr hên Rufeiniaid (eithr yn erbyn ein Rhufelniaid newyddion Anghristnogawl) yn farnwr. Ac fe ymddengys yn eglur, fod yr athrawiaeth, yr hon a ddyscodd St Paul ir hên Eglwys o Rufain, yn vnion yn y gwrthwyneb mewn 26 O sylfaenol byngciau gwir grefydd, i'r hon y mae 'r Eglwys newydd o Rufain yn ei ddyscu a'i maentumio: Canys yr oedd St Paul yn dyscu y brif Eglwys o Rufain.