A76257:1329
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
En. O Arglwydd pa ham yr ydoedd cynifer o ddichellion ac o faglau wedi eu gosod am danat ti? Mat. 26.4.
Cri. Fell y gallwn i dy waredu di o holl faglau yr heliwr ysprydol. Psal. 92.3.
Cri. Fel y gallwn i dy waredu di o holl faglau yr heliwr ysprydol. Psal. 92.3.
En. Arglwydd pa ham y gydewit ti i Judas (oedd in dy fradychu) dy gusanu? Math. 26.40.
En. Arglwydd pa ham y gydewit ti i Judas (oedd yn dy fradychu) dy gusanu? Math. 26.40.
Cri. Megis trwy oddef geiriau gwefusau twyllodrus, y gallwn yno ddechrau talu jawn am bechod, lle y dygasai Satan ef gyntaf i'r bid. Gen. 3.4, 5.
Cri. Megis trwy oddef geiriau gwefusau twyllodrus, y gallwn yno ddechrau talu iawn am bechod, lle y dygasai Satan ef gyntaf i'r byd. Gen. 3.4, 5.
En. Arglwydd pa ham y mynnit tidy werthu am 30 o ddarnau arian. Math. 27.3.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy werthu am 30 o ddarnau arian. Math. 27.3.
Cri. Fell y gallwn ni dy ryddhau di o gaethiwed tragwyddol.
Cri. Fel y gallwn ni dy ryddhau di o gaethiwed tragwyddol.
En. Arglwydd pa ham y gwaeddaist ti trwy y fâth lefain cryf a dagrau? Math. 26.39.
Cri. Fell y gallwn i ddiffoddyd creulondeb cyfiawnder Duw, yr hwn oedd mor danbaid wedi ei ennyn in dy erbyn di
Cri. Fel y gallwn i ddiffoddyd creulondeb cyfiawnder Duw, yr hwn oedd mor danbaid wedi ei ennyn yn dy erbyn di
En. O Arglwydd pa ham yr oeddyt ti mor ofnus, ac ith daflwyd i'r faith chwys o ddefnynnau gwaedlyd?
En. O Arglwydd pa ham yr oeddyt ti mor ofnus, ac ith daflwyd i'r fath chwys o ddefnynnau gwaedlyd?
Cri. Mal gan ddioddef y digofaint dyledus i'th pechodau di, y gellit ti fod in fwy diofal in dy farwolaeth, a chael mwy o gyssur in dy wrthwynebion.
Cri. Mal gan ddioddef y digofaint dyledus i'th pechodau di, y gellit ti fod yn fwy diofal yn dy farwolaeth, a chael mwy o gyssur yn dy wrthwynebion.
En. Arglwydd pa ham y gweddiaist di mor fynych, ac mor ddifrifol, am fined or cwppan hwnnw oddiwrthit? Math. 26.39, 42, 44.
En. Arglwydd pa ham y gweddiaist di mor fynych, ac mor ddifrifol, am fyned or cwppan hwnnw oddiwrthit? Math. 26.39, 42, 44.
Cri. Fell y gellit ti deal echryslonrhwydd y felldith honno a'r digofaint, yr hon er ei bod in ddyledus i'th bechodau di, yr oeddwn i y pride hynny in ei ufed, ac in ei oddef trosot. Gal. 3.13.
Cri. Fel y gellit ti ddeall echryslonrhwydd y felldith honno a'r digofaint, yr hon er ei bod yn ddyledus i'th bechodau di, yr oeddwn i y pryd hynny yn ei vfed, ac yn ei oddef trosot. Gal. 3.13.
En. Arglwydd pa ham y darfu i ti ar ol dy ddymuniad, ostwng dy ewyllys dy hun at ewyllys dy Dad?
Cri. I ddyscu i ti pa beth a ddylit ti ei wneuthur in dy holl flinderau: ac mor fodlon y dylyt ti ymroi i oddef trwy ammynedd y gwrthwyneb, yr hyn a weli di ei fod in dyfod oddiwrth law gyfiawn dy Dâd nefol.
Cri. I ddyscu i ti pa beth a ddylit ti ei wneuthur yn dy holl flinderau: ac mor fodlon y dylyt ti ymroi i oddef trwy ammynedd y gwrthwyneb, yr hyn a weli di ei fod yn dyfod oddiwrth law gyfiawn dy Dâd nefol.
En. O Arglwydd i babeth y chwysais di ddagrau o ddyfr a gwaed? Luc. 22.44.
En. O Arglwydd i ba beth y chwysais di ddagrau o ddyfr a gwaed? Luc. 22.44.
Cri. Fell y gallwn i dy lanhau di oddiwrth dy feiau duon a'th anafau gwacdlyd.
Cri. Fel y gallwn i dy lanhau di oddiwrth dy feiau duon a'th anafau gwacdlyd.