A76257:1361
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
En. Arglwydd pa ham yr oeddyt ti wedi dy ymwisco mewn gwisc o borphor? Joan. 19.5.
En. Arglwydd pa ham yr oeddyt ti wedi dy ymwisco mewn gwisc o borphor? Ioan. 19.5.
Cri. Fell y gellych ti deal may fy fi ath lanhâodd di oddiwrth dy bechodau gwaedlyd. Isaiah, 1.8.
Cri. Fel y gellych ti ddeall mai fy fi ath lanhâodd di oddiwrth dy bechodau gwaedlyd. Esay, 1.8.
En. Arglwydd pa ham y mynnit tidy goroni â drain? Math. 27.29.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy goroni â drain? Math. 27.29.
Cri. Mal gan wisco drain, blaen ffrwythau y felldith, y byddai in eglur, mae fy fi sydd in tynnu ymmaith y pechodau a'r felldith o'r bid, ac in dy goroni di â choron y bywyd a'r gogoniant. Datc. 2.10. 1 Pet. 5.
Cri. Mal gan wisco drain, blaen ffrwythau y felldith, y byddai yn eglur, mae fy fi sydd yn tynnu ymmaith y pechodau a'r felldith o'r byd, ac yn dy goroni di â choron y bywyd a'r gogoniant. Datc. 2.10. 1 Pet. 5.
En. Arglwydd pa ham y rhoddwyd corsen in dy law di? Mat. 27.29.
En. Arglwydd pa ham y rhoddwyd corsen yn dy law di? Mat. 27.29.
Cri. Fell y byddai in eglur na ddaethym i dory y gorsen yssig. Mat. 12.20.
Cri. Fel y byddai yn eglur na ddaethym i dorri y gorsen yssig. Mat. 12.20.
En. Arglwydd pa ham y gwatworwyd dydi gan yr Iddewon? Mat. 27.29.
Cri. Fell y gellit ti orfoleddu ar gythreuliaid, y rhai oni bay hynny, a fuasent in dy watwor di, megis y darfu i'r Philistiaid a Sampson. Barn. 16.25.
Cri. Fel y gellit ti orfoleddu ar gythreuliaid, y rhai oni bai hynny, a fuasent yn dy watwor di, megis y darfu i'r Philistiaid a Sampson. Barn. 16.25.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti halogi dy fendigedig wyneb â phoer? Mat. 26.67.
Cri. Fell y gallwn lanhau y wyneb di oddiwrth gywilydd pechod.
Cri. Fel y gallwn lanhau y wyneb di oddiwrth gywilydd pechod.
En. Arglwydd, pa ham y cuddiwyd dy wyneb di â gorchgudd? Mar. 14.65.
Cri. Fell, gan ddwyn ymmaith dy ddallineb ysprydol di, y gellit ti ganfod wyneb fy Nhâd, in y nefoedd.
Cri. Fel, gan ddwyn ymmaith dy ddallineb ysprydol di, y gellit ti ganfod wyneb fy Nhâd, yn y nefoedd.
En. Arglwydd pa ham i'th tarawsant di â dyrnau, ac i'th pwyasant di âffynn? Mat. 27.30.
Cri. Fell y gellit ti fod in ddiangol oddiwrth ddyrnodiau, a rhwygiadau yr ysprydion uffernol.
Cri. Fel y gellit ti fod yn ddiangol oddiwrth ddyrnodiau, a rhwygiadau yr ysprydion vffernol.
En. Arglwydd pa ham y mynnit tidy gablu? Mat. 27.39.
En. Arglwydd pa ham y mynnit ti dy gablu? Mat. 27.39.
Cri. Fell y gallai Dduw adrodd tanghnedd if wrthit ti trwy ei air a'i yspryd.
Cri. Fel y gallai Dduw adrodd tanghnedd yf wrthit ti trwy ei air a'i yspryd.