A76257:139
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd…Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd…
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn life â osodwyd allan in saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd in gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Y drefn hon a wasanaetha i ni i osod allan daubeth: in gyntaf, y dull pa wêdd y mae y Drindod in gweithio in eu gweithrediadau oddiallan: megis bòd y Tad in gweithio o honaw ei hûn drwy 'r Máb a'r Yspryd glân; y Mab oddiwrth y Tad a thrwy'r Yspryd glan; yr Yspryd glan oddiwrth y Tad ar Mab. In ail, i neillduo y dechrevad digyfrwng cyntaf, oddiwrth yr hwn y mae y gweithrediadau cyffredin hynny oddaillan in tarddu. Oddiymma y deilliaw, in gymmaint ac y mae y Tâd in flynnon a gwreiddyn y Drindod, a dechrevad pob gweithrediad oddiallan: enw Duw mewn perthynas, a'r cyfenw creaŵdr in y Credo, a roddir mewn môdd hynodol i'r Tâd: ein prynedigaeth i'r Mab: a'n sancteiddiad i Berson ⟨p. 6⟩yr Yspryd Glán, megis gweithredyddion digyfrwng or gorchwyliau hynny. A hyn hefyd yw'r achos y mae'r Mâb fell y mae'n gyfryngwr in rhoi pob peth ar law ei Dad: ac nid ar yr Yspryd glân; a bôd yr scrythur in dywedyd cyn fynyched ein bod ni wedi ein cymmodi a'r Tâd.
Y drefn hon a wasanaetha i ni i osod allan ddau beth: yn gyntaf, y dull pa wêdd y mae y Drindod yn gweithio yn eu gweithrediadau oddiallan: megis bòd y Tad yn gweithio o honaw ei hûn drwy 'r Máb a'r Yspryd glân; y Mab oddiwrth y Tad a thrwy'r Yspryd glan; yr Yspryd glan oddiwrth y Tad ar Mab. Yn ail, i neillduo y dechreuad digyfrwng cyntaf, oddiwrth yr hwn y mae y gweithrediadau cyffredin hynny oddaillan yn tarddu. Oddiymma y deilliaw, yn gymmaint ac y mae y Tâd yn flynnon a gwreiddyn y Drindod, a dechreuad pob gweithrediad oddiallan: enw Duw mewn perthynas, a'r cyfenw creaŵdr yn y Credo, a roddir mewn môdd hynodol i'r Tâd: ein prynedigaeth i'r Mab: a'n sancteiddiad i Berson ⟨p. 6⟩yr Yspryd Glán, megis gweithredyddion digyfrwng or gorchwyliau hynny. A hyn hefyd yw'r achos y mae'r Mâb fel y mae'n gyfryngwr yn rhoi pob peth ar law ei Dad: ac nid ar yr Yspryd glân; a bôd yr scrythur yn dywedyd cyn fynyched ein bod ni wedi ein cymmodi a'r Tâd.
Oni bae'r drefn oruchel hon, neu'r Deuluaeth, nid oes na chyntaf na diwaethaf, nac uwch nac îs ym mhlith y try phersônau, canys o ran naturiaeth cydhandfod y maent, o ran braint go-gyfuwch ydynt, ac o ran amser go-gyd-tragwyddol.