A76257:1432
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cri. I ddangos na chai ddeddf y lefitiaid fod mwyach in ganolgae terfyn rhwng yr Iddewon a'r cenedloedd: a body ford i'r nefoedd yr awrhon ⟨p. 420⟩in agored i bawb a gredant. Eph. 2.14. Hebr. 10.19.20.
Cri. I ddangos na chai ddeddf y lefitiaid fod mwyach yn ganolgae terfyn rhwng yr Iddewon a'r cenedloedd: a bod y ffordd i'r nefoedd yr awrhon ⟨p. 420⟩yn agored i bawb a gredant. Eph. 2.14. Hebr. 10.19.20.
En. Arglwydd pa ham y crynodd y ddaiar ac ir holldodd y meini wrth dy farwolaeth di?
Cri. O arswyd iddi ddal ei Harglwydd iw farwolaeth, ac i annod creulon galedwch calonnau pechaduriaid.
En. Arglwydd pa ham na thorrai y milwyr dy esgeiriau, fell y gwnaethant ir lladron yr rhai oeddynt in crogi o'th ddeutu?
En. Arglwydd pa ham na thorrai y milwyr dy esgeiriau, fel y gwnaethant ir lladron yr rhai oeddynt yn crogi o'th ddeutu?
Cri. Fell y gellit ti wybod, nad oedd iddynt allu i wneuthur dim ychwaneg i mi, nac a rag-ddywedasai yr Scrythur y gwnaent, ac a ddioddefwn innau, i'th waredu di. Exod. 12.46. Psal. 34.21. Zech. 12.10.
Cri. Fel y gellit ti wybod, nad oedd iddynt allu i wneuthur dim ychwaneg i mi, nac a rag-ddywedasai yr Scrythur y gwnaent, ac a ddioddefwn innau, i'th waredu di. Exod. 12.46. Psal. 34.21. Zech. 12.10.
En. Arglwydd pa ham y gwahanwyd dy ysdlys â gwaiwffon?
Cri. Fell y gellit ti gael ford i ddyfod in negossach at fy nghalon.
Cri. Fel y gellit ti gael ffordd i ddyfod yn negossach at fy nghalon.
En. Arglwydd i babeth y rhedodd y dwfr ar gwaed allan oath fendigedig ystlys? Joan. 19.34.
En. Arglwydd i ba beth y rhedodd y dwfr ar gwaed allan oth fendigedig ystlys? Joan. 19.34.
Cri. I siccrhau i ti fy lad i, mewn gwirionedd, gan fod gwaed fynghalon in ffrydio allan, a'r dwfr yr hwn oedd o amgylch fynghalon in pistyllio ar ei ol: yr hwn pan y tywallter unwaith y mae 'n angenrhaid i din farw.
Cri. I siccrhau i ti fy lladd i, mewn gwirionedd, gan fod gwaed fynghalon yn ffrydio allan, a'r dwfr yr hwn oedd o amgylch fynghalon yn pistyllio ar ei ol: yr hwn pan y tywallter vnwaith y mae 'n angenrhaid i ddyn farw.
En. Arglwydd, pa ham y rhedodd y gwaed o'r neilltu in gyntaf ar dwfr a'r ol hynny or neilltu yntau, allan o'th fendigedig archoll.
En. Arglwydd, pa ham y rhedodd y gwaed o'r neilltu yn gyntaf ar dwfr a'r ol hynny or neilltu yntau, allan o'th fendigedig archoll.
Cri. I'th siccrhau di o daubeth: 1. may trwy dywalltiad fyngwaed i, y gweithredwyd cyfiawnhâd a sancteiddiad i th waredu di. 2. mae fy yspryd i, trwy gydwybodus arfer o'r dwfr in y Bedydd, ar gwaed in y Cymmun, a weithreda ynot ti gyfiawnder a sancteiddrwydd, trwy yr hyn y cai di fyngogoneddu i. 1 Joan. 5.6.
Cri. I'th siccrhau di o ddau beth: 1. mai trwy dywalltiad fyngwaed i, y gweithredwyd cyfiawnhâd a sancteiddiad i th waredu di. 2. mae fy yspryd i, trwy gydwybodus arfer o'r dwfr yn y Bedydd, ar gwaed yn y Cymmun, a weithreda ynot ti gyfiawnder a sancteiddrwydd, trwy yr hyn y cai di fyngogoneddu i. 1 Joan. 5.6.
En. Arglwydd pa ham y darfu i'r beddau agori wrth dy farwolaeth? Mat. 27.52.
Cri. I arwyddoccau, fod Angau trwy fy marwolaeth i, wedi cael ei friw angavol ai orchfygu.
Cri. I arwyddoccau, fod Angau trwy fy marwolaeth i, wedi cael ei friw angauol ai orchfygu.
En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti gael dy gladdu? Mat. 27.60.
Cri. Fell na allay dy bechodau di sith gyfodi i fynu in y farn in dy erbyn di.
Cri. Fel na allai dy bechodau di fyth gyfodi i fynu yn y farn yn dy erbyn di.
En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti y fâth ddau Henuriaid anrhydeddus, self, Nicodemus, a Joseph o Arimathea, ith claddu? Joan. 19.40.
En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti y fâth ddau Henuriaid anrhydeddus, sef, Nicodemus, a Joseph o Arimathea, ith claddu? Joan. 19.40.