A76257:1437
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
En. Arglwydd pa ham y gwahanwyd dy ysdlys â gwaiwffon?
Cri. Fell y gellit ti gael ford i ddyfod in negossach at fy nghalon.
Cri. Fel y gellit ti gael ffordd i ddyfod yn negossach at fy nghalon.
En. Arglwydd i babeth y rhedodd y dwfr ar gwaed allan oath fendigedig ystlys? Joan. 19.34.
En. Arglwydd i ba beth y rhedodd y dwfr ar gwaed allan oth fendigedig ystlys? Joan. 19.34.
Cri. I siccrhau i ti fy lad i, mewn gwirionedd, gan fod gwaed fynghalon in ffrydio allan, a'r dwfr yr hwn oedd o amgylch fynghalon in pistyllio ar ei ol: yr hwn pan y tywallter unwaith y mae 'n angenrhaid i din farw.
Cri. I siccrhau i ti fy lladd i, mewn gwirionedd, gan fod gwaed fynghalon yn ffrydio allan, a'r dwfr yr hwn oedd o amgylch fynghalon yn pistyllio ar ei ol: yr hwn pan y tywallter vnwaith y mae 'n angenrhaid i ddyn farw.
En. Arglwydd, pa ham y rhedodd y gwaed o'r neilltu in gyntaf ar dwfr a'r ol hynny or neilltu yntau, allan o'th fendigedig archoll.
En. Arglwydd, pa ham y rhedodd y gwaed o'r neilltu yn gyntaf ar dwfr a'r ol hynny or neilltu yntau, allan o'th fendigedig archoll.
Cri. I'th siccrhau di o daubeth: 1. may trwy dywalltiad fyngwaed i, y gweithredwyd cyfiawnhâd a sancteiddiad i th waredu di. 2. mae fy yspryd i, trwy gydwybodus arfer o'r dwfr in y Bedydd, ar gwaed in y Cymmun, a weithreda ynot ti gyfiawnder a sancteiddrwydd, trwy yr hyn y cai di fyngogoneddu i. 1 Joan. 5.6.
Cri. I'th siccrhau di o ddau beth: 1. mai trwy dywalltiad fyngwaed i, y gweithredwyd cyfiawnhâd a sancteiddiad i th waredu di. 2. mae fy yspryd i, trwy gydwybodus arfer o'r dwfr yn y Bedydd, ar gwaed yn y Cymmun, a weithreda ynot ti gyfiawnder a sancteiddrwydd, trwy yr hyn y cai di fyngogoneddu i. 1 Joan. 5.6.
En. Arglwydd pa ham y darfu i'r beddau agori wrth dy farwolaeth? Mat. 27.52.
Cri. I arwyddoccau, fod Angau trwy fy marwolaeth i, wedi cael ei friw angavol ai orchfygu.
Cri. I arwyddoccau, fod Angau trwy fy marwolaeth i, wedi cael ei friw angauol ai orchfygu.
En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti gael dy gladdu? Mat. 27.60.
Cri. Fell na allay dy bechodau di sith gyfodi i fynu in y farn in dy erbyn di.
Cri. Fel na allai dy bechodau di fyth gyfodi i fynu yn y farn yn dy erbyn di.
En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti y fâth ddau Henuriaid anrhydeddus, self, Nicodemus, a Joseph o Arimathea, ith claddu? Joan. 19.40.
En. Arglwydd pa ham y mynnyt ti y fâth ddau Henuriaid anrhydeddus, sef, Nicodemus, a Joseph o Arimathea, ith claddu? Joan. 19.40.
Cri. Fell y byddai y gwirionedd o'm marwolaeth i (yr achos oath fywyd di) in eglurach in ymddangos i bawb oll.
Cri. Fel y byddai y gwirionedd o'm marwolaeth i (yr achos oth fywyd di) yn eglurach yn ymddangos i bawb oll.
En. Arglwydd pa ham i'th claddwyd mewn bed newydd in yr hwn ni roddasid dŷn erioed or blaen? Joan. 19.41.
En. Arglwydd pa ham i'th claddwyd mewn bedd newydd yn yr hwn ni roddasid dŷn erioed or blaen? Joan. 19.41.
Cri. Fell y byddai in eglur, may fy fi ac nid neb arall a gyfododd: ac may trwy fy nerth fy hun, ac nid trwy rinwedd neb arall, mal yr hwn a adfywiodd wrth gyffwrdd ag escyrn Elisha.
Cri. Fel y byddai yn eglur, mai fy fi ac nid neb arall a gyfododd: ac mai trwy fy nerth fy hun, ac nid trwy rinwedd neb arall, mal yr hwn a adfywiodd wrth gyffwrdd ag escyrn Elisha.
En. Arglwydd pa ham y darfu i ti gyfodi dy gorph drachefn? Mat. 28.6.
Cri. Fell y gellit ti fod in ddiogel o fod dy bechodau gwedi eu rhyddhau, ath fod dithau wedi dy gyfiawnhau. Rhuf. 4.25.
Cri. Fel y gellit ti fod yn ddiogel o fod dy bechodau gwedi eu rhyddhau, ath fod dithau wedi dy gyfiawnhau. Rhuf. 4.25.