Ewyllys Duw er nad yw ynddo ei hûn and un, megis y mae ei hanfod, etto o herwydd amryw amlygynnau ac effeithiau, fe ai gelwir in yr Scrythyrau wrth amryw enwau, self,
1. Cariad, wrth yr hwn y deellir Tragwyddol wyllysiad da ein Duw, drwy'r hwn ir ordinhaodd iw etholedigion fod in gadwedig in rhâd drwy Grist: ac y rhydd iddynt bob doniau angenrheidiol ir bywyd yma, ac ir hwn sydd ar ddyfod, gan ymfodloni ynddynt hwy, ac in eu gwasanaeth. 1 Joan 3, 1. Gen. 4, 4.
2. Cyfiawnder yw dianwadal ewyllys Duw, drwy 'r hwn y gobrwya efe ddynion ac Angelion in ol eu gweithredoedd; gan gospi y diedifarus in ol eu haeddedigaethau, yr hyn a elwir cyfiawnder ei ddigofaint ef: a thalu i'r ffyddloniaid in ol ei addewidion, yr hyn a elwir cyfiawnder ei râs ef. Rhuf. 2, 5. ac 9, 15, 16.
3. Trugaredd, yr hwn in unig yw ewyllys da Duw, a pharodrwydd ei search i faddeu i bechadur edifeiriol ei bechodau ai ddrwg foddion.
4. Daioni, drwy 'r hwn y mae Duw in ewyllysgar in cyfrannu o'i ddaioni iw greaduriaid: ac o herwydd ei fod ef in ei gyfrânnu in rhâd, fe ai gelwir ef *grâs.
5. Gwirionedd, drwy 'r hwn yr ewyllysia Duw in ddianwadal, y pethau a ewyllysio: gan ⟨p. 23⟩ddibenu a chyflawni pob peth ar a ddyweddodd in ei amser gosodedig. Psal. 146, 6.
6. Ammynedd, drwy'r hwn y mae Duw in ewyllysgar in peidio a chospi y rhai drygionus, cyhyd ac y cennadhâo ei gyfiawnder, a hid oni byddo eu pechodau hwythau in addfed.
7, Sancteiddwrydd, drwy'r hwn y neulltuir nature Duw oddiwrth bôb halogedigrwdd: ac y cashâ efe bôb brynti; ac felly gan fod in llwyr bureidd-lân ynddo ei hûn, y mae in ymhoffi ymhurdeb a diweirdeb ei weision, oddifewn ac oddiallan, yr hyn a dywalltodd efe ynddynt. 1 Pet. 1, 15, 16. 1 Thes. 4, 3.
8. Dîg, drwy'r hwn y deellir diymmod a chyfiawn ewyllys Duw, in ceryddu yr etholedigion, ac in rhoddi dial a chosbedigaeth ar y Gwrthodedig, am y cammau a gynnigiant iddo ef ac iw ddewisedig. A phan gospo Duw in dôst, ac in drwm, yno y gelwir Digofaint, amserol ir Etholedig, tragwyddol ir Gwrthodedig. Psal. 106, 23.29, 40, 41.
Ewyllys Duw er nad yw ynddo ei hûn ond vn, megis y mae ei hanfod, etto o herwydd amryw amlygynnau ac effeithiau, fe ai gelwir yn yr Scrythyrau wrth amryw enwau, sef,
1. Cariad, wrth yr hwn y deellir Tragwyddol wyllysiad da ein Duw, drwy'r hwn ir ordinhaodd iw etholedigion fod yn gadwedig yn rhâd drwy Grist: ac y rhydd iddynt bob doniau angenrheidiol ir bywyd yma, ac ir hwn sydd ar ddyfod, gan ymfodloni ynddynt hwy, ac yn eu gwasanaeth. 1 Joan 3, 1. Gen. 4, 4.
2. Cyfiawnder yw dianwadal ewyllys Duw, drwy 'r hwn y gobrwya efe ddynion ac Angelion yn ol eu gweithredoedd; gan gospi y diedifarus yn ol eu haeddedigaethau, yr hyn a elwir cyfiawnder ei ddigofaint ef: a thalu i'r ffyddloniaid yn ol ei addewidion, yr hyn a elwir cyfiawnder ei râs ef. Rhuf. 2, 5. ac 9, 15, 16.
3. Trugaredd, yr hwn yn vnig yw ewyllys da Duw, a pharodrwydd ei serch i faddeu i bechadur edifeiriol ei bechodau ai ddrwg foddion.
4. Daioni, drwy 'r hwn y mae Duw yn ewyllysgar yn cyfrannu o'i ddaioni iw greaduriaid: ac o herwydd ei fod ef yn ei gyfrânnu yn rhâd, fe ai gelwir ef *grâs.
5. Gwirionedd, drwy 'r hwn yr ewyllysia Duw yn ddianwadal, y pethau a ewyllysio: gan ⟨p. 23⟩ddibenu a chyflawni pob peth ar a ddyweddodd yn ei amser gosodedig. Psal. 146, 6.
6. Ammynedd, drwy'r hwn y mae Duw yn ewyllysgar yn peidio a chospi y rhai drygionus, cyhyd ac y cennadhâo ei gyfiawnder, a hyd oni byddo eu pechodau hwythau yn addfed.
7, Sancteiddwrydd, drwy'r hwn y neulltuir natur Duw oddiwrth bôb halogedigrwdd: ac y cashâ efe bôb brynti; ac felly gan fod yn llwyr bureidd-lân ynddo ei hûn, y mae yn ymhoffi ymhurdeb a diweirdeb ei weision, oddifewn ac oddiallan, yr hyn a dywalltodd efe ynddynt. 1 Pet. 1, 15, 16. 1 Thes. 4, 3.
8. Dîg, drwy'r hwn y deellir diymmod a chyfiawn ewyllys Duw, yn ceryddu yr etholedigion, ac yn rhoddi dial a chosbedigaeth ar y Gwrthodedig, am y cammau a gynnigiant iddo ef ac iw ddewisedig. A phan gospo Duw yn dôst, ac yn drwm, yno y gelwir Digofaint, amserol ir Etholedig, tragwyddol ir Gwrthodedig. Psal. 106, 23.29, 40, 41.
- *Neu rhâd