A76257:293
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd…Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd…
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn life â osodwyd allan in saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd in gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Dy gydwybod oddifewn, (in waeth na mil o dystion) a'th cyhudda: y cythrauliaid, y rhai a'th ddenodd di ith holl ddireidi drygionus, a fyddant o'r nail-tu efo ath cydwybod, in dwyn tystiolaeth i'th erbyn: ar y tu arall y saif y Seintiau bendigedig a'r Angelion i gydbrofi cyfiawnder Christ, gan ffieiddio creadur mor aflan. Oath ol swn echrystawn aneirif gyfeillion colledig, a damnedigion gresynol in aros am dy gyfeillach. Oath flaen di yr holl fyd in llosci in fflam o dân; goruwch dy ben di y bid y Barnwr llawnddig a chôsp haeddedigol in barod i adrodd y farn ith erbyn. Oddi tanat genau gwreichionllyd y gauffwrn ddiwaelod in agored i'th dderbyn. In y cyflwr gresynol hwn, fe fydd amhonibl iti ymgadw, o blegit dan yr ammod honno, ti a finite pe cwympei y graig fwyaf ar dy uchaf, Dad. 6.16, 17. Ymddangos a fydd anescorol itti, ac etto y mae 'n rhaid i't sefyll allan gyd a'r colledigion eraill i dderbyn y farn hon arnad, self, Ewch oddiwrthif chwi felldigedig i'r tân tragwyddol, yr hwn a ddarparwyd i ddiafol ac iw angelion, Mat. 25.41.
Dy gydwybod oddifewn, (yn waeth na mil o dystion) a'th cyhudda: y cythrauliaid, y rhai a'th ddenodd di ith holl ddireidi drygionus, a fyddant o'r naill-tu efo ath cydwybod, yn dwyn tystiolaeth i'th erbyn: ar y tu arall y saif y Seintiau bendigedig a'r Angelion i gydbrofi cyfiawnder Crist, gan ffieiddio creadur mor aflan. Oth ol swn echrystawn aneirif gyfeillion colledig, a damnedigion gresynol yn aros am dy gyfeillach. Oth flaen di yr holl fyd yn llosci yn fflam o dân; goruwch dy ben di y bydd y Barnwr llawnddig a chôsp haeddedigol yn barod i adrodd y farn ith erbyn. Oddi tanat genau gwreichionllyd y gauffwrn ddiwaelod yn agored i'th dderbyn. Yn y cyflwr gresynol hwn, fe fydd amhonibl iti ymgadw, o blegit dan yr ammod honno, ti a fynnit pe cwympei y graig fwyaf ar dy uchaf, Dad. 6.16, 17. Ymddangos a fydd anescorol itti, ac etto y mae 'n rhaid i't sefyll allan gyd a'r colledigion eraill i dderbyn y farn hon arnad, sef, Ewch oddiwrthif chwi felldigedig i'r tân tragwyddol, yr hwn a ddarparwyd i ddiafol ac iw angelion, Mat. 25.41.