Y cyntaf a ordeiniodd ac a drefnodd ympryd, oedd Dduw ei hun ym mharadwys: a'r gyfraith gyntaf ar a wnaeth Duw ydoedd hi, self gorchymmyn i Adda ymgadw oddiwrth y ffrwyth gwaharddedig. Ni adroddai, ac ni scrifennai Dduw ei gyfraith heb ympryd, ac in ei gyfraith y mae ef in gorchymmyn iw holl bobl ymprydio: felly y mae ein Jachawdwr Christ in athrawiaethu ei holl ddiscyblion yntau tan y Testament newydd un agwedd. Math. 6.17. Ymprydio in dduwiol ydyw 'r mod nessaf a bair i ddŷn ymddangos in debyg ⟨p. 257⟩i Angelion, a gwneuthur •wyllys Duw ar y ddaiar, megis y gwneir in y nefoedd. Je y mae nature megis in dyscu i ddŷn y ddlêd hon, gan roddi iddo safn bychan, a gwddf cyfyngach: o ran fe fodlonir nature ag ychydig, a grâs â lay. Ac nid yw nature a grâs in cyttuno in well mewn un weithred nac in ymarfer o ympryd duwiol: canys y mae in cryfhau y côf, in golevo y meddwl, in llewyrchu y dealltwriaeth, in ffrwyno trachwantau, in marwhau y cnawd, in ymddiffyn diweirdeb, in achub rhag clefyd, in cynnal yr jechyd, in gwaredu rhag drygau, ac in peri pob mâth ar fendithion.
Y cyntaf a ordeiniodd ac a drefnodd ympryd, oedd Dduw ei hun ym mharadwys: a'r gyfraith gyntaf ar a wnaeth Duw ydoedd hi, sef gorchymmyn i Adda ymgadw oddiwrth y ffrwyth gwaharddedig. Ni adroddai, ac ni scrifennai Dduw ei gyfraith heb ympryd, ac yn ei gyfraith y mae ef yn gorchymmyn iw holl bobl ymprydio: felly y mae ein Jachawdwr Christ yn athrawiaethu ei holl ddiscyblion yntau tan y Testament newydd un agwedd. Math. 6.17. Ymprydio yn dduwiol ydyw 'r modd nessaf a bair i ddŷn ymddangos yn debyg ⟨p. 257⟩i Angelion, a gwneuthur •wyllys Duw ar y ddaiar, megis y gwneir yn y nefoedd. Je y mae natur megis yn dyscu i ddŷn y ddlêd hon, gan roddi iddo safn bychan, a gwddf cyfyngach: o ran fe fodlonir natur ag ychydig, a grâs â llai. Ac nid yw natur a grâs yn cyttuno yn well mewn vn weithred nac yn ymarfer o ympryd duwiol: canys y mae yn cryfhau y côf, yn goleuo y meddwl, yn llewyrchu y dealltwriaeth, yn ffrwyno trachwantau, yn marwhau y cnawd, yn ymddiffyn diweirdeb, yn achub rhag clefyd, yn cynnal yr iechyd, yn gwaredu rhag drygau, ac yn peri pob mâth ar fendithion.