A76257:933
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd…Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd…
Yr ymarfer o dduwioldeb in cyfarwyddo dŷn i rodio fall y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn life â osodwyd allan in saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd in gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.Yr ymarfer o dduvvioldeb yn cyfarvvyddo dŷn i rodio fal y rhyngo ef Fodd Duw. Yr hwn lyfe â osodwyd allan yn saeson-sec o wraith y gwir barchedig dâd Lewis Escomb Bangor, ac a gyfieithwyd yn gamber-aec o waith Row. Vaughan o gaergai o sîr feirion wr bonheddig.
Printiedig in Llundain : gan Tho. Dawks, 1675Printiedig yn Llundain : gan Tho. Dawks, 1675
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
1. Elusenau ydyw 'r moddion rhagorol i berry i Dduw in ei drugaredd droi ei farnedigaethau amserol oddiwrthym: pan fyddom ni trwy wir ffydd (yr hon a'i dengys ei hun wrth y cyfryw ffrwythau) in dychwelyd atto ef. Dan. 4.24.
1. Elusenau ydyw 'r moddion rhagorol i beri i Dduw yn ei drugaredd droi ei farnedigaethau amserol oddiwrthym: pan fyddom ni trwy wir ffydd (yr hon a'i dengys ei hun wrth y cyfryw ffrwythau) yn dychwelyd atto ef. Dan. 4.24.
2. Trugarog roddwyr echwyn ac Elusenau a fyddant blant i'r goruchaf; Luc. 6.35.36. ac in debyg i Dduw eu Tâd, yr hwn yw Tâd y Trugareddau, 2 Cor. 1.3. Hwy a gân fod in oruwchwilwyr i gyfrannu ei dda; Luc. 16.2. a'i ddwylaw i roddi ei Elusenau. Ac os ydyw gymmaint goruwchafiaeth fod in oruwchwiliwr elusenau 'r Brenin; pa faint mwy ydyw bod in oruwchwiliwr, neu in rhannwr Elusenau tros Frenyn y Brenhinoedd?
2. Trugarog roddwyr echwyn ac Elusenau a fyddant blant i'r goruchaf; Luc. 6.35.36. ac yn debyg i Dduw eu Tâd, yr hwn yw Tâd y Trugareddau, 2 Cor. 1.3. Hwy a gân fod yn oruwchwilwyr i gyfrannu ei dda; Luc. 16.2. a'i ddwylaw i roddi ei Elusenau. Ac os ydyw gymmaint goruwchafiaeth fod yn oruwchwiliwr elusenau 'r Brenin; pa faint mwy ydyw bod yn oruwchwiliwr, neu yn rhannwr Elusenau tros Frenyn y Brenhinoedd?