A77831:124
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Myfi a ddangosais eisus, fod ein ufydd-dod ni (trwy yr hyn yr ym in ymdrechu cyflawni pethau gorchmynedig) in ammherffaith jawn; Ac felly yr ym ni in ffaelu talu i Dduw ein Dyled cyntaf: A phe gallem, trwy ufydd-dod perffaith, dalu y Dyled hwnnw, dross yr amser presennol, ni ryddháei hynny mo honom oddiwrth ein hail Ddyled, trwy yr hwn yr ym ni 'n rhwym i ddioddef cospedigaethau am ein pechodau: oblegit nid ym ni, trwy ein ufydd-dod presennol in bodloni cyfiawnder Duw, am ein anneirif drosseddiadau oi Gyfraith sanctaidd ef, ⟨p. 27⟩in yr amser cynt: Megis pan y boar wr trwy fands ddau Ddyled iw dalu, un o ugain, a'r llall o ddeugain punt, nid yw ei waith ef in cymmeryd i fynu y nail fand, wrth dalu y nail ddyled o ugain, in ei ryddháu ef oddiwrth yr ail ddyled o ddeugain punt, y sydd ddyledus wrth y band arall.
Myfi a ddangosais eisus, fod ein vfydd-dod ni (trwy yr hyn yr ym yn ymdrechu cyflawni pethau gorchmynedig) yn ammherffaith iawn; Ac felly yr ym ni yn ffaelu talu i Dduw ein Dyled cyntaf: A phe gallem, trwy ufydd-dod perffaith, dalu y Dyled hwnnw, dros yr amser presennol, ni ryddháei hynny mo honom oddiwrth ein hail Ddyled, trwy yr hwn yr ym ni 'n rhwym i ddioddef cospedigaethau am ein pechodau: oblegit nid ym ni, trwy ein ufydd-dod presennol yn bodloni cyfiawnder Duw, am ein anneirif drosseddiadau oi Gyfraith sanctaidd ef, ⟨p. 27⟩yn yr amser cynt: Megis pan y bo ar wr trwy fands ddau Ddyled iw dalu, un o ugain, a'r llall o ddeugain punt, nid yw ei waith ef yn cymmeryd i fynu y naill fand, wrth dalu y naill ddyled o ugain, yn ei ryddháu ef oddiwrth yr ail ddyled o ddeugain punt, y sydd ddyledus wrth y band arall.
In awr, megis y prwfiwyd, nad ym ni in talu ein dyled eyntaf i Dduw, trwy wneuthur yr holl bethau gorchmynnedig in y Ddeddf; Felly mi a brwfiaf, nad ym ni'n abl talu ein hail ddyled iddo, er dioddef o honom gospedigaethau amserol a thragwyddol am ein trosseddiad o'i Gyfraith sanctaidd ef, trwy wneuthur pethau gwaharddedig ynthi. Ac fall y bo i chwi deal hyn in well.