A77831:130
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ystyriwch in nessaf, nad yw cospedigaethau yr annuwiol in y bid yma, in gyflawn dalment a jawn i Dduw am eu pechodau hwynt oblegid fe orfydd ir sawl sy'n dioddef ar y Ddaiar (y Sydd in marw in anedifeiriol) ymddangos drachefn o flaen Christ y did diwetha, i dderbyn barn o gospedigaeth tragwyddol in uffern.
Ystyriwch yn nessaf, nad yw cospedigaethau yr annuwiol yn y byd yma, yn gyflawn dalment a iawn i Dduw am eu pechodau hwynt oblegid fe orfydd ir sawl sy'n dioddef ar y Ddaiar (y Sydd yn marw yn anedifeiriol) ymddangos drachefn o flaen Crist y dydd diwetha, i dderbyn barn o gospedigaeth tragwyddol yn uffern.
Fe ddioddefodd Bobl Sodom in y bid hwn ddialeddau am eu drygioni; canys fe'i difethwyd hwy â thân a Brwmstan o'r nefoedd; ac y mae eu heneidiau nhw in dioddef in awr in uffern (Jud. 7.) er hynny, rhaid iddynt hwy ymddangos ger bron Christ y Did diwethaf, i fined tan farn, i ddioddef cospedigaeth tragwyddol in y bid y ddaw, am eu ffiaidd weithredoedd.
Fe ddioddefodd Bobl Sodom yn y byd hwn ddialeddau am eu drygioni; canys fe'i difethwyd hwy â thân a Brwmstan o'r nefoedd; ac y mae eu heneidiau nhw yn dioddef yn awr yn uffern (Jud. 7.) er hynny, rhaid iddynt hwy ymddangos ger bron Crist y Dydd diwethaf, i fyned tan farn, i ddioddef cospedigaeth tragwyddol yn y byd y ddaw, am eu ffiaidd weithredoedd.
Pan y mae Christ in dywedyd, y bid esmwythach i Dir Sodom, in nydd y farn, nag i Capernaum, nid yw hynny in prwfio, na bid dim cosp i bobl Sodom, on• y bid lay o gosp iddynt hwy nag i bobl Capernaum ar y Did mawr hwnnw: And Gwae! Gwae! Gwae ir s•wl a orfydd dioddef y •ospedigaeth lleiaf in uffern!