A77831:22
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Fell na byddei ddalennau gwynion, in y Llyfr y mae Rheolau duwiol, i Gristion iw harfer, wedi ei gosod yma.
Fel na byddei ddalennau gwynion, yn y Llyfr y mae Rheolau duwiol, i Gristion iw harfer, wedi ei gosod yma.
Pan deffroech di gyntaf in dy wely, bid siccir i feddwl am yr Arglwydd; a gâd ith enaid escyn i fynu ar aden ffydd, i roddi iddo aberth borevol o ddiolchgarwch, am ei ddaioni i'ti y nôs a aeth heibio; a gwna hyn, cyn i'ti feddwl am ddim arall; rhag drwy hynny ith enaid gael ei lychwino a'i ddiwyno a phechod. Psal. 63. 6.
PAn deffroech di gyntaf yn dy wely, bydd siccir i feddwl am yr Arglwydd; a gâd ith enaid escyn i fynu ar aden ffydd, i roddi iddo aberth boreuol o ddiolchgarwch, am ei ddaioni i'ti y nôs a aeth heibio; a gwna hyn, cyn i'ti feddwl am ddim arall; rhag drwy hynny ith enaid gael ei lychwino a'i ddiwyno a phechod. Psal. 63. 6.
2. Pan gyfodech di gyntaf, nac oeda alw dy dylwyth ing hid, i roddi d•olch ir Arglwydd am ei drug areddau in gyffredin; ac in neillduol i'ti ac ir eiddot, Jos. 24. 17. Jer. 10. 25. A gwêl na wnelych mo hynny in llygoer, in draddodiadol, ac in unig o ran arfer: And gwna ef mewn cydwybod a gwîr gariad i Dduw; gan alaru o'th gallon, nad ellit ti gyflawni dy ddyledswyddau in fwy ysprydol a nefol; gan gyfaddef dy bechode, ac in ostyngedig ymbil am faddevant am danynt. Ac ar ôl hynny, mae in gymmwys i'ti ymbil am y cyfryw bethe, ac sydd arnat ti eisiau ith enaid neu ith gorph; a chan geisio bendith ar waith y diwrnod sydd in canlyn, cais gredu, y bid Duw er mwyn Christ in dy atteb di; nail ai in ôl y pethe a ofynnaist di; ai ynte mewn pethe y mae efe in ei welled in well ar dy lês di