A77831:240
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
O'r diwedd, pan yr oed pawb in cilio 'n ôl rhag ofn y Gwyr arfog, fe welai Cristion ŵr ag wynebpryd †glue gantho, in dyfod i fynu at yr hwn oedd in eistedd yno i yscrifennu, gan ddywedyd wrtho, Sir, Dodwch i lawr fy Enw i, a phan y gwnaeth efe hynny, fo welai 'r Gwr in tynnu ei gleddyf, 2ac in gosod helm ar ei ben, ac in rhuthro tua'r Drws ar draws y Gwyr arfog, y rhai a ymosodasant in ⟨p. 71⟩ei erbyn ef in gynddeiriog ag arfau anghevol: eithr nid allent hwy ei ddigalonni ef mewn môdd in y bid, ac am hynny fo ymladdodd â nhwy in ffyrnig: ac felly wedi cael ei glwyfo ganthynt, a rhoddi amryw archollion iddynt, self ir sawl oedd in ceisio i gadw ef allan, fo a wnaeth ei ford trwyddynt hwy oll, ac a ymwthiodd ym-mlaen ir llŷs: Ac ar hynny y clybuwyd llais hyfryd y rhai oedd in y Palas, self y s•wl oedd in rhodio ar nenn y Tŷ, in dywedyd, *Dear, Dear, i mewn in wrol, Ti ynnilli †fraint tragwyddol. Felly efe a aeth i mewn, ac fe gwiscwyd ef yno, âr un-rhyw Ddillad a hwyntau: yna y gwenodd Cristion, ac a ddywedodd; in ddiau mi dybygwn, y gwn i beth yw ystyr a meddwl hyn i gyd. Y mae 'r Drygionus in gwrthwynebu y sawl sy'n siwrneio tua'r nefoedd, trwy eu gorthrymmu hwynt â chospedigaethau; a phan nas gallant wneuthur felly, y maent in eu sathru hwynt dan draed â'u geriau caledion, gan flaenlly•nu eu tafodau, a dodi awch arnynt megis ar gleddyfau a saethau, i ddrygu 'r gwirion, Psal. 140. 3. Psal. 64. 34. Eithr y mae 'r rhai grassol in amddiffyn eu hunain, â chleddyf yr Yspryd, self â Gair Duw, gan hyspyssu ir annuwiol, nad ydynt in ceisio und gwasanaethu Duw in ôl ei ewyllys: a thrwy ei gwaith hwy in ceryddu yr ⟨p. 72⟩annuwiol am eu pechodau, ac in enwedig am eu casineb o'r hyn sydd dda: y mae 'r Duwiol trwy hynny, a chleddyf yr Yspryd in ymladd â'r annuwiol, ac ydynt in clwyfo eu calonnau hwynt: Eithr er cymmaint y maent hwy in herlid y rhai grassol, ac er cymmaint yw gwatwor, a geiria caledion y drygionus am y rhai sy'n ofni Duw, y mae 'r Duwiol, er hynny i gyd, in mined ym-mlaen, ac in ymwthio ir Nefoedd ar y diwedd,