A77831:241
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Nage ebe Deonglwr, Aros hid oni ddangoswyf i ti ychydig †ragor, a *chwedyn di a gay fined ith ford: Felly fo ymaflodd in ei law ef drachefn, ac a'i harwainodd ef i ystafell dywyll jawn, lle yr oedd Gwr in eistedd mewn ‖cyffion o haiarn, wedi ei gau i fynu megis Aderyn mewn †cawell. In awr fe ellit tybied wrth edrych ar y Gwr, ei fod ef in athrist jawn: canys yr oedd efe in eistedd â 'i olygon tua 'r Ddaiar, a'i ddwylo gwedi eu plethu ynghyd: ac yr oedd efe in ocheneidio, fall pettaisai ef ar dory ei gallon. Ina ebe Cristion, pa beth sydd i mi deal wrth hyn? Ar hynny fe erchodd y *Lladmerydd iddo ymddiddan â'r Gwr.
Nage ebe Deonglwr, Aros hyd oni ddangoswyf i ti ychydig †ragor, a *chwedyn di a gai fyned ith ffordd: Felly fo ymaflodd yn ei law ef drachefn, ac a'i harwainodd ef i ystafell dywyll iawn, lle yr oedd Gwr yn eistedd mewn ‖cyffion o haiarn, wedi ei gau i fynu megis Aderyn mewn †cawell. Yn awr fe ellit tybied wrth edrych ar y Gwr, ei fod ef yn athrist iawn: canys yr oedd efe yn eistedd â 'i olygon tua 'r Ddaiar, a'i ddwylo gwedi eu plethu ynghyd: ac yr oedd efe yn ocheneidio, fal pettaisai ef ar dorri ei galon. Yna ebe Cristion, pa beth sydd i mi ddeall wrth hyn? Ar hynny fe erchodd y *Lladmerydd iddo ymddiddan â'r Gwr.
- †