A77831:419
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Ffy. A ddywedwch chi felly? Ina fe 'm twyllwyd i 'n ddirfawr in y Gwr ymma.
Ffy. A ddywedwch chi felly? Yna fe 'm twyllwyd i 'n ddirfawr yn y Gwr ymma.
Cris. Twyllwyd chwi! Do in †ddilys: Cofiwch y Ddihareb: Dywedant ac nis gwnânt: And nid mewn ymadrodd y mae teyrnas Dduw (in sefyll) eithr mewn gallu, Mat. 23. 3. 1 Cor. 4. 20. Y mae fo 'n chwedleva am Weddi, am Edifeirwch, am Ffydd, ac am yr Ad-enedigaeth; eithr nid oes gantho in ei enaid ei hun brofiad in y bid o honynt; fo feidr in unic chwedleva am danynt. Myfi a fûm in ei Deulu ef, ac a ddeliais sulw arno ef ⟨p. 155⟩Gartref ac oddi Cartref; ac mi a wn, may gwir ydyw 'r hyn yr wyfi in ei ddywedyd am dano ef. Y mae ei Dŷ ef cyn wacced o Grefydd ac yw gwynn ŵy o flâs. Nid oes yno na Gweddi, nac Argoel o Edifeirwch am bechod. Je y mae 'r Anifail in ei Ryw in gwasanaethu Duw in lawyer gwell nag efe. Isaiah. 1. 3. Y mae Crefydd in dioddef †Gogan, ‖Gwarthrydd, a Chywilydd o'i achos ef; ac y mae 'n anhawdd *iddi gael Gair da in yr holl ran hynny o'r Drêf, lle y mae fo in presswylio ynthi, am fod ei fuchedd ef in ei diwyno hi, Rhuf. 2. 23. 24. Fall hyn y dywed y Bobl gyffredin sy 'n ei adnabod ef, Angel Pen ford, Diawl pen pentan. Y mae ei Deulu ef wedi cael profiad o hyn oll. Y mae fo 'n Ddifennwr, ac mor Anfwyn, mor