A77831:483
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cris. Yr oeddwn i'n tybied in wîr may chwi oedd y gwr y clywais i son am dano: Ac i ddywedyd wrthych chi fy meddwl, 'rwi 'n ofni, fod yr enw hwn in perthynu in fwy priodol i chwi, nag y mynech i ninny dybied ei fod.
Cris. Yr oeddwn i'n tybied yn wîr mai chwi oedd y gwr y clywais i son am dano: Ac i ddywedyd wrthych chi fy meddwl, 'rwi 'n ofni, fod yr enw hwn yn perthynu yn fwy priodol i chwi, nag y mynech i nyni dybied ei fod.
Cam-ddi. Weal os mynnwch ddychymig pethau felly, ni allafi wrthych: ⟨p. 199⟩And os byddwch mor fwyn a'm cymmeryd i'ch cymdeithas, chwi a'm cewch i in gydymaith glân.
Cam-ddi. Wele os mynnwch ddychymig pethau felly, ni allafi wrthych: ⟨p. 199⟩Ond os byddwch mor fwyn a'm cymmeryd i'ch cymdeithas, chwi a'm cewch i yn gydymaith glân.
Cris. Os dewchi gyda ninny, rhaid i chwi fined in erbyn gwynt a Llanw, yr hyn sy'n wrthwyneb i'ch *opiniwn chwi: A rhaid i chwi hefyd ymddangos tros Grefydd, pan y bo hi in eî hên gadachau, in gystal a phan y bo hi in ei *sandalau arian; ai harddel hi hefyd pan y bytho hi in rhwym mewn cadwynau, in gystal a phan y bytho hi'n rhodio 'r heolydd mewn anrhydedd.
Cris. Os dewchi gyda nyni, rhaid i chwi fyned yn erbyn gwynt a Llanw, yr hyn sy'n wrthwyneb i'ch