A77831:499
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cris. Ina ebe Cristion, fe all baban mewn crefydd atteb deng Mîl o'r faith Gwestiwnau a'r rhain. Canys gan ei bod hi 'nawr, fall yr oedd hi cynt, in anghyfreithlon, i ddilyn Christ am y Torthau bara, Pa faint mwy ffiaidd 1ydyw ei wneuthur ef a Chrefyd i fod megis *March-cynfas, i ynnill a mwynhau'r Bid? Ac ni bu nêb and Cehedloedd, Rhagrithwyr, Diaflaid, a Swynwyr o'r meddwl hwn. 1. Cenhedloedd, Canys pan ewyllysiai Hamor a Shechem gael Merch ac anifeiliaid Jacob, a phan y gwelsant, nad oedd mod i in y bid iw mwynhau hwynt, o•id trwy dderbyn yr †Enwaediad; hwy a ddywedasant wrth eu Cyfeillion; Os enwaedir ein holl wrwod ni, fall y maent hwy wedi eu henwaedu, oni fydd eu hanifeiliaid, a'u cyfoeth, a'u holl *yscrubliaid hwynt in eiddom ni? Y Ferch a'r Annifeiliaid oedd y cwbl yr oeddynt hwy in eu ddisgwyl am dadynt, a'u Crefydd oedd y March-cynfas a arferasant eu mwynhau hwynt. Gen. 34. 2. Y Pharisaeaid rhagrithiol oeddynt hefyd o'r Grefydd yma, canys tan rîth hîr weddio, eu diben hwy oedd; i lwyr fwytta tai gwragedd gweddwon: ac am hynny y bygwthiodd Christ nhw, a ⟨p. 209⟩damnedigaeth mwy echrydus, nâ damnedigaeth trosseddŵyr eraill. Luc. 20. 47. 3. Yr oedd Judas y Cythrael hefyd o'r Grefydd yma: 'roedd e'n Grefyddol er mwyn y *Gôd; gan obeithio, y gallai fo trwy hynny feddianu yr arian oedd in y pwrs: eithr efe a gyfrgollwyd, ac a fwriwyd ymaith, ac yr oedd e 'n wîr fab y golledigaeth. 4. Simony Swynwr oedd hefyd o'r Grefydd yma, Canys efe a fynnai gael yr Yspryd glân fall 'y gallai wneuthur elw o honaw, a'i farn o Enau Petr oedd in ôl hynny. Act. 8. 18. 19. 20. 21