A77831:598
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gob. Yr wyf in gorfoleddu in awr, mewn gobaith i feddiannu gogoniant Duw: Felly hwy a droesant eu cefnau ar y gwr; ac yntef a aeth iw ford dan chwerthin. Ina y gwelwn y Pererinion in mined in eu blaen, hid oni ddaethant i ryw wlâd, lle yr oedd yr awel in naturiol in peri i ddynion gyscu; (in enwedig os Dieithriaid fyddent:) Ac yma y dechrevodd Gobeithiol fod in farwedd jawn, ac in drwmluog gan gyscu; am hynny ebe fe wrth Gristion, yr wyfi 'n awr mor gysclyd, fall may prin yr ydwyf in gallu cadw fy llygaid in agored: Gorweddwn yma a chymmerwn hûn.
Gob. Yr wyf yn gorfoleddu yn awr, mewn gobaith i feddiannu gogoniant Duw: Felly hwy a droesant eu cefnau ar y gwr; ac yntef a aeth iw ffordd dan chwerthin. Yna y gwelwn y Pererinion yn myned yn eu blaen, hyd oni ddaethant i ryw wlâd, lle yr oedd yr awel yn naturiol yn peri i ddynion gyscu; (yn enwedig os Dieithriaid fyddent:) Ac yma y dechreuodd Gobeithiol fod yn farwedd iawn, ac yn drwmluog gan gyscu; am hynny ebe fe wrth Gristion, yr wyfi 'n awr mor gysclyd, fal mai prin yr ydwyf yn gallu cadw fy llygaid yn agored: Gorweddwn yma a chymmerwn hûn.
Cris. Na wnawn (ebe fe) mewn mod in y bid, rhag wedi cyscu na ddeffròm mwyach.
Cris. Na wnawn (ebe fe) mewn modd yn y byd, rhag wedi cyscu na ddeffròm mwyach.
Gob. Pa ham fy Mrawd, melys yw hûn y Gweithwr, fe allay yr adfywid ni, os cysgwn ychydigyn.
Gob. Pa ham fy Mrawd, melys yw hûn y Gweithwr, fe allai yr adfywid ni, os cysgwn ychydigyn.