A77831:614
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gob. Na do; nid oeddwn in ewyllysgar in *ddiattreg, i adnabod y gwenwyn a'r drwg y sydd mewn pechod; nar ddamnedigaeth y sydd in ei ddilyn ef; eithr pan y dechrevodd fy nghalon grynu dan y gair; mi a ewyllysiwn gau fy llygaid in erbyn goleuni 'r gair.
Gob. Na ddo; nid oeddwn yn ewyllysgar yn *ddiattreg, i adnabod y gwenwyn a'r drwg y sydd mewn pechod; nar ddamnedigaeth y sydd yn ei ddilyn ef; eithr pan y dechreuodd fy nghalon grynu dan y gair; mi a ewyllysiwn gau fy llygaid yn erbyn goleuni 'r gair.
- *Daring.D•dari•g.
Cris. Eithr pa beth oedd yr achos, pa ham yr ymddygasoch fall hyn, tan weithrediadau cyntaf yr yspryd glân ynoch chwi?
Cris. Eithr pa beth oedd yr achos, pa ham yr ymddygasoch fal hyn, tan weithrediadau cyntaf yr yspryd glân ynoch chwi?
Gob. Yr achosion oeddynt, in gyntaf, am nas gwyddwn i, may gwaith yspryd Duw oedd yr argyoeddiadau yma: Ac ni wybûm i erioed o'r blaen; may trwy ddeffroad am bechod, yr oedd Duw in dechreu gweithio troedigaeth pechadur. In ail, yr oedd pechod in felys etto i'm cnawd; ac yr oedd in anodd gennif ymadel âg ef. ⟨p. 271⟩