A77831:617
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Cris. Mae'n dybygol wrth hynny, eich bod weithie, in cael esmwythdra, oddiwrth y trwbwl, yr oedd yr argyoeddiadau yma in ei weithio ynoch.
Cris. Mae'n dybygol wrth hynny, eich bod weithie, yn cael esmwythdra, oddiwrth y trwbwl, yr oedd yr argyoeddiadau yma yn ei weithio ynoch.
Gob. Oeddwn in ddiau, eithr hwy a ddevent im côf drachefn; ac yna y byddwn cynddrwg, je in waeth fy nghyflwr, nag erioed or blaen.
Gob. Oeddwn yn ddiau, eithr hwy a ddeuent im côf drachefn; ac yna y byddwn cynddrwg, ie yn waeth fy nghyflwr, nag erioed or blaen.
Cris. Pà ham beth oedd in peri i chwi atgofio'ch pechodau drachefn?
Cris. Pà ham beth oedd yn peri i chwi atgofio'ch pechodau drachefn?
Gob. Lawyer o bethau; megis, pan y cyfarfyddwn â gwr duwiol in y ford; yr olwg arno ef (yr hwn oedd wedi troy oddiwrth ei bechodau) oedd in fy argyoeddi i, yr hwn ni throiswn etto oddiwrthynt. Ac in nessaf, pan y clywn neb in darllain y Bibl: Neu pan y clywn fod rhai o'm cymmydogion in gleifion; neu bod clôch in canu, am fod rhyw un wedi marw: Ac hefyd pan y byddwn clâf fy hunan, ac y meddyliwn,