Gob. Efe a archodd i mi fined atto, a †phrofi, pan a wnai ef, am hachub i ai peidio. Ina mine ai hattebais, may rhyfyg ydoedd hynny. Yntef 2a ddywedodd nage; canys fe'th wahoddwyd i ddyfod atto. Ina fe a roddodd i mi lyfr o ‖argraphiad Jesus ei hun; i'm hannog i ddyfod atto in *hyfach. Ac efe a ddywedodd am y Llyfr hwnnw, fod pob jot a thitl o honaw ef, in fwy parhaus a safadwy nâ'r Nefoedd a'r Ddaiar, Mat. 24. 35. Ina mi a ofynnais iddo, pa beth a wnawn pan ddelwn atto? yntef a ddywedodd wrthyf, fod in rhâid i mi ymbil (ar fy ngliniau, â'm holl Gallon, ac 5am holl Enaid) ar y Tád, am ei ddatcuddio ef i mi. Wedi hynny mi a ofynnais 6iddo ym-mhellach; ym-mha Le y gellwn i gael cyfarfod ag ef? Ac yntef a'm hattebodd; Dôs, a thy a gay ei gyfarfod 7ef, ar orseddfa o drugaredd; lle y mae'n eistedd trwy'r holl flwyddyn, i roddi gollyngdod a maddevant i'r sawl a ddevant atto. Mine a ddywedais, nas gwyddwn i pa beth i ddywedyd wrtho, pan y delwn atto. Ina ebb efe, dywed wrtho i'r pwrpas hyn. Duw bid drugarog wrthif Bechadur; a phâr ⟨p. 278⟩i mi adnabod Jesus Grist, a chredu yntho: Canys mi a welaf, pettaisai ei Gyfiawnder ef heb fod, ac oni bid gennif inn ffydd i gredu y cyfiawnheir fi, trwy ei gyfiawnder ef, ddarfod am danaf in dragywydd: Arglwydd mi a glowais dy fod di in Dduw trugarog, ac i ti ordeinio dy F•b Jesus Grist i fod in Jachawdwr y Bid: ac ym-mhellach, dy fod di in ewyllysgar i roddi ef, i fod in Achubwr, i'r faith Bechadur truan ac ydwyfi (ac in wir yr wyfi in Bechadur mawr) Cymmer gan hynny Aaglwydd yr odfa hon, a gogonedda dy ras ynghadwedigaeth fy Enaid i, trwy dy fab Jesus Grist. Amen.
Gob. Efe a archodd i mi fyned atto, a †phrofi, pa vn a wnai ef, am hachub i ai peidio. Yna minne ai hattebais, mai rhyfyg ydoedd hynny. Yntef 2a ddywedodd nage; canys fe'th wahoddwyd i ddyfod atto. Yna fe a roddodd i mi lyfr o ‖argraphiad Jesu ei hun; i'm hannog i ddyfod atto yn *hyfach. Ac efe a ddywedodd am y Llyfr hwnnw, fod pob jot a thitl o honaw ef, yn fwy parhaus a safadwy nâ'r Nefoedd a'r Ddaiar, Mat. 24. 35. Yna mi a ofynnais iddo, pa beth a wnawn pan ddelwn atto? yntef a ddywedodd wrthyf, fod yn rhâid i mi ymbil (ar fy ngliniau, â'm holl Galon, ac 5am holl Enaid) ar y Tád, am ei ddatcuddio ef i mi. Wedi hynny mi a ofynnais 6iddo ym-mhellach; ym-mha Le y gellwn i gael cyfarfod ag ef? Ac yntef a'm hattebodd; Dôs, a thi a gai ei gyfarfod 7ef, ar orseddfa o drugaredd; lle y mae'n eistedd trwy'r holl flwyddyn, i roddi gollyngdod a maddeuant i'r sawl a ddeuant atto. Minne a ddywedais, nas gwyddwn i pa beth i ddywedyd wrtho, pan y delwn atto. Yna eb efe, dywed wrtho i'r pwrpas hyn. Duw bydd drugarog wrthif Bechadur; a phâr ⟨p. 278⟩i mi adnabod Jesu Grist, a chredu yntho: Canys mi a welaf, pettaisai ei Gyfiawnder ef heb fod, ac oni bydd gennif inne ffydd i gredu y cyfiawnheir fi, trwy ei gyfiawnder ef, ddarfod am danaf yn dragywydd: Arglwydd mi a glowais dy fod di yn Dduw trugarog, ac i ti ordeinio dy F•b Jesu Grist i fod yn Jachawdwr y Byd: ac ym-mhellach, dy fod di yn ewyllysgar i roddi ef, i fod yn Achubwr, i'r fath Bechadur truan ac ydwyfi (ac yn wir yr wyfi yn Bechadur mawr) Cymmer gan hynny Aaglwydd yr odfa hon, a gogonedda dy ras ynghadwedigaeth fy Enaid i, trwy dy fab Jesu Grist. Amen.
- †Trio.
- 2Mat. 11. 28.
- ‖Yscrifenniad.
- *conach.
- 5Psal. 95. 6.
- 6Jer. 29. 13.
- 7Exod. 25. 22.