A77831:660
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
Gob. Fe wnaeth hyn i mi welled fod yr †holl fyd, er ei holl ‖gyfiawnderau, mewn stâd o ddamnedigaeth: Fe wnaeth i mi welled, er fod Duw 'r Tâd in gyfiawn, y dichon efe, er hynny i ⟨p. 282⟩gyd, gyfiawnhau y pechadur a ddêl atto. Fe wnaeth hyn i mi gyw•lyddio in ddirfawr am frynti fy much•dd cynt; ac fe'm gwradwyddwyd i 'n ddirsawr, wrth feddwl faint oedd fy hên Anwybodaeth; canys ni feddyliodd fy •ghalon i erioed o'r blaen, fod Jesus Grist mor brydferth, a mod i in sefyll (fall y mae pawb eraill) mewn diffig o honaw, im glanhau, a'm cyfiawnhau, a'm cadw rhag uffern, ac i roi i mi fywyd tragwyddol. Fe wnaeth hyn i mi garu buchedd sanctaidd, ac i hiraethu, am wneuthur rhyw beth, er Anrhydedd a gogoniant i Enw'r Arglwydd Jesus. Je yr wyfi 'n tybied in awr, pe bay-bossibl fod gennifi Fill o Alwyni o waed in fy nghorph, y gallwn i golly pob *diferyn o honaw, er mwyn yr Arglwydd Jesus. Ina y gwelwn (in fy Mreuddwyd) Gobeithiol in edrych drach ei gefn, ac efe a ganfu y Gwr a elwid Anwybodaeth (yr hwn a adawsent ar eu hol,) in eu canlyn hwynt. Gwelwch, ebb efe wrth Gristion, fall y mae y glàs-langc accw in loetran ar ein hòl.