A77831:729
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd
Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : in yr hwn y dangofir, I. Y Mod y mae Pechadur in Chychwyn ...Taith neu siwrnai y pererin, tan rith neu Gyffelybiaeth Breuddwyd : yn yr hwn y dangofir, I. Y Modd y mae Pechadur yn Chychwyn ...
Printiedig in Llundain : gan J. Richardson ..., 1688Printiedig yn Llundain : gan J. Richardson ..., 1688
Modern spelling is a reading aid: the words are the author’s, only the spelling is modernized. Original shows the page as printed, with the transcription marks.
In Drydydd, Y mae 'n gweithio, ac in cynnal i fynu (in yr Enaid) barch mawr tuagat Dduw, a'i Air, ai Ffyrdd, gan gadw in yr Enaid dynerwch calon, ynghyd a gofal ac arswyd, rhag troy, oddiwrthynt, ar y law ddehau, na'r asswy, at ddim, ar a ddichon, 1. Ddianrhydeddu Duw, 2. Dorri heddwch yr Enaid, 3. Dristhau yr Yspryd glân; neu 4. Roddi achlyssur i Elynion yr Arglwydd gablu. Ruff. 2. 23. Psal 51. 8. Es. 63. 10. 2 Sam. 12. 14.
Yn Drydydd, Y mae 'n gweithio, ac yn cynnal i fynu (yn yr Enaid) barch mawr tuagat Dduw, a'i Air, ai Ffyrdd, gan gadw yn yr Enaid dynerwch calon, ynghyd a gofal ac arswyd, rhag troi, oddiwrthynt, ar y llaw ddehau, na'r asswy, at ddim, ar a ddichon, 1. Ddianrhydeddu Duw, 2. Dorri heddwch yr Enaid, 3. Dristhau yr Yspryd glân; neu 4. Roddi achlyssur i Elynion yr Arglwydd gablu. Ruf. 2. 23. Psal 51. 8. Es. 63. 10. 2 Sam. 12. 14.
Gob. Chwi a ddywedasoch in dda; yr wyf in credu iw'ch ddywedyd y gwîr. A ydym ni yr-wan, in agos mined tros y Tîr a reibiwyd?
Gob. Chwi a ddywedasoch yn dda; yr wyf yn credu iw'ch ddywedyd y gwîr. A ydym ni yr-wan, yn agos myned tros y Tîr a reibiwyd?
Cris. Pa'm yr ydych in gofyn hynny; a ydychi 'n blino ar yr ymddiddan yma?
Cris. Pa'm yr ydych yn gofyn hynny; a ydychi 'n blino ar yr ymddiddan yma?